Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Ymchwil>Ymchwil i Ofal Iechyd sy’n gysylltiedig â Diogelwch Bwyd

Ymchwil i Ofal Iechyd sy’n gysylltiedig â Diogelwch Bwyd

Mae diddordeb gan y grŵp ymchwil yn hyfforddiant ac addysg prynwyr/defnyddwyr, pobl a fydd yn trin bwyd, a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd. Cafodd theorïau seicolegol eu defnyddio i ddatblygu ac i gyflawni hyfforddiant wedi’i dargedu ac ymyriadau addysg. 

Bydd gweithgaredd ymchwil i ofal iechyd sy’n gysylltiedig â diogelwch bwyd yn cynnwys hyfforddiant diogelwch bwyd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd megis deietegwyr, darparu gwybodaeth ar ddiogelwch bwyd ar gyfer cleifion a rhoddwyr gofal yn y teulu mewn lleoliadau gofal iechyd, a chynhyrchu a gweini bwyd yn ddiogel mewn ysbytai yn y DU.

Mae’r ymchwil cyfredol yn cynnwys datblygu offeryn asesu i werthuso pa mor ddigonol yw’r cyfathrebu ar ddiogelwch bwyd yn ffynonellau’r cyfryngau bwyd, a dylunio, cyflawni a gwerthuso gwybodaeth ar ddiogelwch bwyd i gleifion cemotherapi a’r rhoddwyr gofal yn eu teuluoedd mewn lleoliadau gofal iechyd. O dderbyn bod mwy o risg y bydd cleifion yn cael eu heintio yn ystod triniaeth cemotherapi (oherwydd atal imiwnedd), rydym wedi adnabod bod prinder gwybodaeth ar gael i’r grŵp ar-risg yma ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr a chyllidwyr i gael creu strategaeth diogelwch bwyd ar gyfer cleifion â chanser.

Cefnogaeth a Chydweithrediad

Mae’r Uned Ymchwil yn cefnogi astudiaethau Ôl-Ddoethuriaeth, PhD ac israddedig, ac mae’n cydweithredu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol o fewn y sector gan gynnwys:

  • Prifysgol Purdue, UDA
  • Prifysgol Taleithiol Ohio, UDA
  • Prifysgol Uppsala, Sweden

 

Cyhoeddiadau Allweddol a Chynadleddau (rhestr lawn o Gyhoeddiadau a rhestr lawn o Gyfraniadau Cynhadledd)

Gould, V.J., Evans, E.W., Redmond, E.C., Marklinder, I.M., Quinlan, J.J., & Ilic, S. (2019) Exploring the Role of Dietitians in the Delivery of Food Safety Information. Food Protection Trends. 39(3): 277-282

Evans, E.W., & Redmond, E.C., (2018) Food Safety Knowledge and Self-Reported Food-Handling Practices in Cancer Treatment. Oncology Nursing Forum. 45(5): 98-110

Winter, G., Evans, E.W., Busby, O., and Redmond, E.C.  (2019) Sport and Exercise Nutritionists’ Perceptions of Food Safety Risks among Athletes. Poster presented at the International Association for Food Protection (IAFP) Annual Meeting, Louisville, Kentucky, USA, on 21st-24th July 2019.

Busby, O., Winter, G. & Evans, E.W. (2018) Food safety and the role of performance nutritionists. Dietetics Today. February 2018, 22.

Evans, E.W. & Redmond, E.C. (2017). An assessment of food safety information provision for UK chemotherapy patients to reduce the risk of foodborne infection. Public Health 153(12): 25-35.