Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Mae fy rôl yn cynnwys 3 phrif faes: Marchnata, Ymchwil a Bylchau Sgiliau.
Marchnata brand Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE a chynhyrchion a gwasanaethau'r Ganolfan i'r diwydiant bwyd a diod ac i randdeiliaid. Rheoli cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu a Chysylltiadau Cyhoeddus. Rheoli digwyddiadau yn fewnol ac yn allanol yn enwedig ar gyfer arddangosfeydd. Cefnogi holl weithgaredd Llywodraeth Cymru (LlC) fel lledaenu cyfleoedd busnes gan gynnwys i'r diwydiant. Rheoli cronfeydd data o gysylltiadau diwydiant a rhanddeiliaid, gan eu cadw'n gadarn ac yn gyfoes.
Mae gweithgareddau ymchwil diwydiant yn cynnwys ymchwilio i'r wybodaeth a'r ymddygiad sy'n pennu lefelau sgiliau a bylchau hyfforddi. Uwch-sgilio diwydiant, gan ganolbwyntio ar Gymru a chynllun gweithredu LlC. Datblygu a gweithredu arolwg diwydiant blynyddol sy'n bwydo gwybodaeth a data i LlC.
Rheoli prosiectau fel Prosiect Sgiliau'r Diwydiant Bwyd (FISP) a Phrosiect dysgu trwy waith yn Dysgu am y Diwydiant Bwyd Ar-lein (FILO). Dyluniwyd FISP i recriwtio a chadw technolegwyr bwyd yn y diwydiant cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru gan arwain at gyrsiau byr, gradd Meistr ar-lein, cynllun lleoli myfyrwyr bwrsariaeth, cylchlythyr diwydiant ac ymchwil ar yr angen am radd sylfaen. Ariannwyd FILO trwy Gronfeydd Strwythuredig Ewropeaidd ac roedd yn cynnwys datblygu a darparu cymwysterau penodol i'r diwydiant.