Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd>Sustainable Procurement

Caffael Cynaliadwy

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

Mae'r Brifysgol yn ceisio gwneud defnydd llawn o offer electronig lle bynnag y bo hynny'n briodol yn ei phrosesau caffael. Mae'r Brifysgol wedi bod yn defnyddio tendro electronig ers bron i 10 mlynedd ac mae ganddi hefyd broses archebu e-gaffael sydd wedi'i hen sefydlu, yn defnyddio e-farchnad sy'n cynnal catalogau electronig ac yn hwyluso’r gwaith o drosglwyddo a derbyn archebion ac anfonebau prynu electronig.

Mae'r Brifysgol hefyd yn trosglwyddo archebion prynu y tu allan i'r e-farchnad trwy e-byst a gynhyrchir yn awtomatig ac yn defnyddio'r un dechnoleg i gyflwyno hysbysiadau taliadau electronig i gyflenwyr. Mae rhoi’r prosesau hyn ar waith wedi arwain at ostyngiad dramatig yn y defnydd o ddogfennau copi caled a deunydd ysgrifennu a ddefnyddir i gyfathrebu â chynigwyr a chyflenwyr ac, o ganlyniad, mae gostyngiad dramatig yn y defnydd o wasanaethau post.

Mae'r broses 'Proffilio Nwyddau' y bydd y Brifysgol yn ei defnyddio i nodi ac adrodd ar gyflawniadau Cynaliadwyedd wedi'i chwblhau.
Bydd y ddogfen hon yn cael ei diweddaru yn ôl yr angen, a diwygiadau'n cael eu hadrodd  i'r Grŵp Perfformiad Amgylcheddol. Bydd ymchwil data manwl pellach yn cychwyn.

Cytunodd y Brifysgol yn ddiweddar ar dariff newydd ar gyfer prynu trydan gwyrdd gyda thariffau Gwyrdd yn dechrau ym mis Awst 2017.

Mae Met Caerdydd yn prynu ei ddyfeisiau bwrdd gwaith, nodiadur ac Apple trwy gytundebau cenedlaethol AU. Mae'r cytundeb byrddau gwaith a nodiaduron cyfredol (a'r cytundeb newydd a ddaw i rym ar 1.8.17) yn cael ei osod gan  Gonsortiwm Prynu Prifysgolion Llundain, sy'n aelodau o Electronics Watch ac sy’n cymhwyso gofynion Electronics Watch yn eu hymarferion caffael.

Ar hyn o bryd prynir offer Apple Met Caerdydd gan XMA trwy'r cytundeb offer Apple Cenedlaethol AU. Mae'r cytundeb hwn hefyd yn cynnwys cymalau contract a ddatblygwyd ar gyfer y consortia gan Electronics Watch (EW) i amddiffyn hawliau gwaith gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r cymalau yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ddatgelu gwybodaeth am leoliadau ffatri, cydymffurfio â safonau gwaith rhyngwladol, hwyluso mynediad EW i ffatrïoedd ac ymrwymo i gamau cadarn tuag at wella amodau gwaith ar lefel ffatri.

http://www.metcaerdydd.ac.uk/procurement/Pages/Contract-list-and-Future-Contract-Opportunities-.aspx

http://www.sustainableacademy.wales/innovation-in-procurement-or-supply-chain-winner/