Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd>Sustainable Estate

Ystâd Gynaliadwy

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

 

Mae gan y Brifysgol raglen cynnal a chadw arfaethedig ar gyfer archwilio a chlirio’r holl brif ddraeniau ar ein Campysau.

Caiff teithiau cerdded o gwmpas y campysau eu pennu cyn y tymhorau i sicrhau eu bod yn edrych yn dda ar bob adeg, ac rydym yn parhau i wella'r tirlunio meddal a chaled.

Rydym wedi ymgysylltu â Chyngor Caerdydd ar nifer o ddatblygiadau ac wedi cyfarwyddo nifer o arolygon ecolegol. Mae nifer o fentrau ar wahân wedi’u gwneud o ran blychau adar, cychod gwenyn ac annog pryfed a bywyd gwyllt.

Rydym yn parhau i weithio trwy ein cynllun dileu clymog sy'n gwella ardaloedd ffiniol Campws Llandaf yn fawr.