Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd>Energy and Utilities

Ynni a Charbon

Mae Met Caerdydd yn cydnabod y rôl bwysig a'r cyfrifoldeb sydd ganddi wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau ein hôl troed carbon ledled yr ystâd a chyfrannu at wella perfformiad adeiladau, lles preswylwyr ac ansawdd aer lleol er budd ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

Mae ein taith lleihau carbon wedi arwain at nifer o gyflawniadau nodedig.  Nod ein Strategaeth Rheoli Carbon 2018/19-2022/23 gyfredol yw adeiladu ar berfformiad egni cadarn y Brifysgol trwy hyrwyddo arfer gorau mewn effeithlonrwydd egni, arwain trwy esiampl ac ennyn diddordeb myfyrwyr a staff i feithrin cyfrifoldeb ar y cyd tuag at welliant parhaus mewn cynaliadwyedd ledled Met Caerdydd.

Gyda buddsoddiad parhaus mewn effeithlonrwydd egni, bydd y strategaeth hon yn cyflawni gostyngiad cyffredinol o 60% mewn allyriadau carbon o'i gymharu â llinell sylfaen 2005/06.  Mae hyn yn ein cadw'n ddiwyro ar y trywydd iawn i gyflawni targedau carbon a nodwyd ar gyfer y sector; gweithio tuag at gyflawni targedau'r sector cyhoeddus a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2030; a pharhau ar y trywydd iawn i gyflawni'r targed cenedlaethol o leihau allyriadau carbon o 80% erbyn 2050 yn erbyn llinell sylfaen 1990.

Mae Llywodraeth Cymru'n annog pob sefydliad AU i fabwysiadu'r nod Sero Net 2030 ac arwain trwy esiampl wrth ddatgarboneiddio eu hystadau.  Mewn ymateb i hyn, rydym yn datblygu Strategaeth Rheoli Carbon Sero Net newydd a fydd yn amlinellu ein taith i gyflawni sero net erbyn 2030 ar draws Sgôp 1 a 2 gydag ymrwymiad ar gyfer Sgôp 3 erbyn 2035.

Rydym yn adrodd yn gyhoeddus ar ein hallyriadau carbon (Sgôp 1-3) yn flynyddol ochr yn ochr â sefydliadau AU eraill y DU ar wefan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Ein prif gyflawniadau

  • Yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon adeiladau Sgôp 1 a 2 o 53% hyd at ddiwedd 2019/20, arbediad o 3,699 tunnell o CO2e.
  • Rydyn ni nawr yn allyrru dros 3,699 yn llai o dunelli carbon bob blwyddyn nag yr oedden ni ddeuddeng mlynedd yn ôl - sy'n cyfateb i allyriadau gwerth 450 o gartrefi nodweddiadol yn y DU.
  • Dros y 12 mlynedd diwethaf, rydym wedi lleihau'r defnydd o drydan o 33% a nwy o 39%.
  • Rydym wedi prynu trydan 100% cwbl adnewyddadwy ers 2017.
  • Nid ydym wedi cael gwared ar unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi ers 2013/14 gyda'r holl wastraff cyffredinol bellach yn cael ei brosesu mewn gwaith 'egni o wastraff' lleol.
  • Rydym wedi trosi ein pwll o geir fflyd tanwydd ffosil yn drydanol.
  • Rydym yn cynhyrchu tua 45,000kWh yn flynyddol o'n paneli solar ffotofoltaig ar ein hadeiladau yn Llandaf a Chyncoed gan arbed costau trydan grid o oddeutu £6,250 y flwyddyn, sy'n cyfateb i oddeutu 15 tunnell o CO2e.

Beth ydyn ni wedi'i wneud?

  • Mae uwchraddiadau goleuadau LED helaeth gyda rheolaethau gwell wedi digwydd mewn amrywiol adeiladau ar draws yr ystâd gan gyflawni arbedion o 150tCO2e a £115k mewn arbedion cost y flwyddyn.
  • Uwchraddio System Rheoli Busnes ac optimeiddio rheolaethau ar gyfer peiriannau gwresogi ac awyru ar draws y safle gan gyflawni arbedion cost blynyddol o £40k a gostyngiad o 175tCO2e;
  • Gosod boeleri, gwresogyddion dŵr poeth a pheiriannau perfformiad uchel newydd ledled adeiladau amrywiol.
  • Uwchraddio goleuadau allanol ar draws campysau Llandaf a Chyncoed gan arbed tua 65% yn y defnydd o egni a 18tCO2e y flwyddyn.
  • Gwelliannau i'r rhwydwaith o is-fesuryddion adeiladau ar draws yr ystâd a'i ehangu.

Yn ogystal â lleihau ein targedau allyriadau ar gyfer sgôp 1 a 2, rydym yn llwyr ymwybodol fod ein hallyriadau Sgôp 3 yn cynrychioli cryn dipyn o'n hôl troed carbon cyffredinol. 

Rydym yn datblygu systemau a phrosesau i ddal, dadansoddi ac adrodd ar ein data Sgôp 3 yn well i sefydlu llinellau sylfaen a thargedau ystyrlon y gallwn weithio tuag atynt i leihau'r effeithiau anuniongyrchol y mae'r Brifysgol yn ei chael ar yr amgylchedd.  Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'n tîm Caffael, ein cyflenwyr a'n contractwyr a datgarboneiddio allyriadau teithio trwy gymhellion a mentrau ar gyfer cynyddu teithio carbon isel ymhlith ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

Beth nesaf?

Fel rhan o'n hymgyrch gyflymach i leihau ein hallyriadau carbon, rydym wrthi'n adolygu cynigion ar gyfer cynyddu ein cynhyrchiant egni adnewyddadwy ar draws yr ystâd, darparu seilwaith gwefru trydan a thechnolegau carbon isel/sero.  Byddwn yn cynnal uwchraddiadau pellach i'r System Rheoli Busnes a'i optimeiddio, uwchraddio goleuadau LED, optimeiddio cynaliadwyedd trwy ein rhaglen adnewyddu gan ddefnyddio methodoleg asesu amgylcheddol RICS SKA a darparu arolwg llawn ar gyflwr yr ystadau i lywio penderfyniadau ynghylch gwella perfformiad adeiladau.