Ynglŷn â Ni>Cynaliadwyedd>Emissions and Effluents

Allyriadau ac Elifion

​​​​​​​​​​

Fodd bynnag, er gwaethaf yr esemptiad hwn, mae'r Brifysgol yn parhau â'i strategaeth gynnal a chadw gadarn yn unol â rhwymedigaethau statudol, mae ei Hysgolion yn parhau i gynnal eu hasesiadau risg i sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd lleol (ymdrinnir â hyn ar lefel leol o fewn Ysgolion). Mae'r Brifysgol wedi cwblhau arolwg llawn o ddraeniad dŵr wyneb a brwnt ac mae ganddi gynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r holl waith adfer a nodwyd.

Mae llythyr caniatâd gan y Brifysgol o hyd; ailedrychwyd ar hwn eto ym mis Gorffennaf 2015, ac mae’n caniatáu i'r Brifysgol ollwng elifion masnach i'r system ddraenio leol. Mae'r caniatâd hwn yn cydnabod yr effaith ansylweddol y mae elifion y Brifysgol yn ei chael ar y cwrs dŵr.