Cynadleddau a Digwyddiadau
P’un a ydych chi'n cynllunio cynhadledd breswyl, arddangosfa, cyfarfod neu sesiwn hyfforddi, mae gan Gynadleddau Met Caerdydd gyfleusterau cyfoes, pwrpasol a thîm cyfeillgar a phrofiadol i sicrhau digwyddiad llwyddiannus.
Ymhlith y cyfleusterau mae nifer o
ystafelloedd ymneilltuo a darlithfeydd haenog,
ystafelloedd cynadledda penodedig,
ystafelloedd lletygarwch hunangynhwysol, ystafelloedd hyfforddi TG, gofod arddangos a
chyfleusterau chwaraeon helaeth dan do ac yn yr awyr agored. Gydag 800+ o
ystafelloedd gwely sengl ar gael yn ystod misoedd yr haf, mae'r lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer cynnal
Cynadleddau Preswyl a Gwersylloedd Hyfforddi.
Mae’r cyfleusterau ar gael yn y tri lleoliad a phob un yn agos at ganol y ddinas, gyda mynediad hawdd o'r M4 a pharcio ar y safle.
I gael cyngor ac awgrymiadau defnyddiol ar sut i gynllunio digwyddiad llwyddiannus, edrychwch ar ein
tudalen sut i drefnu cynhadledd neu lawrlwythwch ein
Rhestr Wirio Cynllunio Digwyddiad.pdf. Er mwyn lleihau effaith amgylcheddol eich cyfarfod neu gynhadledd, edrychwch ar y
Canllaw Digwyddiadau Gwyrddach.
Llyfryn Cynadleddau a Digwyddiadau
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein Llyfryn Cynadleddau a Digwyddiadau.
Amodau a Thelerau Cynadleddau Met Caerdydd
Telerau ac Amodau Cyffredinol 2021.pdf
Hysbysiad Preifatrwydd Cynadleddau Met Caerdydd
Hysbysiad Preifatrwydd Dwyieithog