Darlithfeydd ac Ystafelloedd Seminar
Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o ddarlithfeydd ac ystafelloedd seminar ar gael i'w llogi. P’un a ydych chi'n trefnu cyfarfod ar gyfer nifer fach o bobl neu'n trefnu cynhadledd fawr, gallwn ni ddiwallu'ch anghenion. Mae gan bob un o'n hystafelloedd yr holl gyfarpar clyweled ac mae Wifi ar gael ar y safle.
Am ragor o wybodaeth a chymorth i gydlynu'ch digwyddiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Math o ystafell | Maint / Nifer o bobl
| Nifer o Ystafelloedd
|
Darlithfa Haenog | 300 - 350 | 2 |
Darlithfa Haenog | 90-260 | 6 |
Darlithfa Haenog | 49 - 80 | 9 |
Ystafelloedd Seminar /
Ymneilltuo | 25 - 60 | 60 |
Ystafelloedd Cyfarfod | 12 – 20 | 5 |
Ystafelloedd Hyfforddi TG | 20 – 30 | 5 |
Prif Neuadd | 225m2 / 350 | 1 |
Gofod Arddangos NIAC | 5,500m2 / 2000 | 1 |