Ystafelloedd Cynadledda Penodedig
Intropara
Mae'r Ystafelloedd Cynadledda ar Gampws Cyncoed wedi'u hailwampio’n llawn, gan
gynnig ystafelloedd cyfarfod ffres a chyfoes yng Nghaerdydd. Gall yr ystafelloedd
cynadledda ddal hyd at 80 o bobl ac maen nhw’n cynnwys Wi-Fi am ddim a'r cyfarpar
clyweled diweddaraf. Mae'r holl ystafelloedd ar y llawr daear ac yn agos at y brif
dderbynfa. Mae'r Ystafelloedd Cynadledda’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, sesiynau
hyfforddi a chynadleddau bach i ganolig eu maint. I gael gwybodaeth am ein hystafelloedd
cyfarfod eraill, ystafelloedd hyfforddi, ystafelloedd cynadledda a darlithfeydd, cliciwch
yma.
Mae'r Tîm Cynadleddau profiadol a chyfeillgar wrth law i sicrhau bod eich digwyddiad yn
llwyddiant mawr.
Ystafelloedd Cynadledda 1, 2 a 3
Mae'r Ystafelloedd Cynadledda yn cynnwys tair ystafell gyfarfod, a gellir agor dwy ohonynt
allan i roi un ystafell gyfarfod fawr â thafluniad dwbl.
AMae'r tair ystafell yn darparu'r un dodrefn cyfoes, gyda golau dydd naturiol a'r goleuadau
gorau posibl yn yr ystafelloedd.
Gall Ystafell Gynadledda 1 ddal hyd at 66 mewn arddull theatr a gall Ystafelloedd
Cynadledda 2/3 gyda'i gilydd ddal hyd at 82 mewn arddull theatr.
I weld teithiau rhithwir o amgylch yr Ystafelloedd Cynadledda ac i gael manylion llawn o
gynlluniau, dimensiynau a chynhwysedd ystafelloedd cliciwch yma.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein Llyfryn Cynadleddau a Digwyddiadau ar-
lein.