Os ydych chi'n chwilio am lety cost isel neu opsiwn gwahanol i hostel, gwesty bach neu westy, fe allai fod gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd yr ateb. O ddiwedd mis Mehefin tan ddechrau mis Medi rydym yn cynnig llety i deuluoedd, grwpiau a theithwyr unigol. I archebu nawr
cliciwch yma.
Mae ystafelloedd gwely sengl en-suite ar gael am £49.00 y noson ar Gampysau Plas Gwyn a Chyncoed, a’r ddau gampws yn agos at ganol y ddinas gyda phrif gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a pharcio ar y safle. Darperir dillad gwely a thywel ym mhob ystafell ac mae cegin gyda theledu ac ardal eistedd i'w rhannu.
Mae wifi am ddim ar gael i bob gwestai.
Mae Campws Plas Gwyn ym mhentref Cadeiriol Llandaf gyda siopau, bwytai a thafarndai o fewn tafliad carreg iddo. Gyda Llwybr Taf ychydig funudau i ffwrdd, gallwch fwynhau taith gerdded ddymunol ar hyd yr afon i gyrraedd Canol Dinas Caerdydd neu loncian neu seiclo i gyrraedd Castell Coch.
Mae Campws Cyncoed yn daith gerdded fer o lyn golygfaol Parc y Rhath i'r gogledd o'r ddinas ac yn daith gerdded fer o ganolfan siopa Heol Albany. Mae yna nifer o ystafelloedd sengl moethus gyda gwely 3/4 sy'n addas i 2 ei rannu. Mae gan Gampws Cyncoed bwll a champfa hefyd i unrhyw un sydd am ddal ati â’i drefniadau cadw’n heini arferol yn ystod ei arhosiad.
Ar gyfer grwpiau mwy o faint, arosiadau estynedig a chynadleddau preswyl, cysylltwch â'r
Tîm Cynadleddau i gael gwybod y cyfraddau a’r argaeledd.
Teithiau Rhithwir
Cliciwch ar y dolenni canlynol i weld taith rithwir o'n hystafelloedd gwely ar Gampws Cyncoed.
| Cegin wedi'i hadnewyddu | Ystafell wely en-suite wedi'i hadnewyddu