Rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau lletygarwch. Os gwelwch yn dda gweler ein Bwydlen Lletygarwch.
Mae’r bwyd o safon uchel gydag opsiynau bwyd 'Bwyta'n Iach’ a bwydlenni sy’n addas i bob gofyn dietegol. Rhestrir taliadau lletygarwch yn y llyfryn fel nad ydynt yn cynnwys TAW, sy'n daladwy ar y gyfradd gyfredol.
Mae amrywiaeth o safleoedd lletygarwch cyfoes ar gael ar y campws, gan gynnwys ein Hub Food Court a The Gallery.
Mae gwasanaeth arlwyo Met Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur gan Gyngor Dinas Caerdydd am ei opsiynau Iach ac mae gan bob un o'n safleoedd arlwyo sgôr hylendid bwyd o bedair seren neu'n uwch. Mae Met Caerdydd yn canolbwyntio'n gryf ar arlwyo cynaliadwy ac mae wedi ennill statws Masnachdeg gan helpu i leihau effaith a gwella safonau amgylcheddol digwyddiadau.
Beth bynnag fo'ch digwyddiad a'ch cyllideb, byddwn yn creu pecyn arlwyo i ddiwallu'ch anghenion.