Astudio>Ehangu Mynediad>Dolenni Defnyddiol

Dolenni Defnyddiol

 

Cyllid

Mae'r gobaith o fynd i'r Brifysgol yn gyffrous, ond gall y syniad o reoli eich cyllid ymddangos yn frawychus ac ychydig yn llethol. Bydd ein hadran gyllid yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi am y ffioedd rydyn ni'n eu codi, y gefnogaeth ariannol y gallai fod gennych chi hawl iddi, yn ogystal â rhai awgrymiadau hanfodol ar gyfer cyllidebu a rheoli'ch arian.

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch os bydd angen help arnoch ynglŷn â'ch iechyd, llesiant, ffordd o fyw a'ch gyrfa yn y dyfodol tra byddwch chi gyda ni. Eu nod yw rhoi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn gwneud yn siwr bod eich astudiaethau mor bleserus a llwyddiannus â phosibl. Mae'r gwasanaethau hyn yn rhad ac am ddim, yn ddiduedd, yn anfeirniadol ac yn gyfrinachol.

Teithio i Met Caerdydd

Cliciwch ar y ddolen hon gael cyfarwyddiadau i’r gwahanol gampysau, a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.

Cyswllt Ysgolion

Mwy o wybodaeth am y gwaith maen nhw'n ei wneud gydag ysgolion a cholegau ledled y DU a sut y gallan nhw eich helpu gyda'ch prosesau Addysg Uwch (AU) unigol.