Astudio>Ehangu Mynediad>Ymestyn yn Ehangach

Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru

 

Mae Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn un o bartneriaid Rhaglen Ymestyn yn Ehangach HEFCW.

Nod y rhaglen genedlaethol hon, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch o blith grwpiau a dangynrychiolir drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch.

Mae ymwybyddiaeth o lwybrau dilyniant a chyfleoedd gyrfa posibl yn rhan annatod o bob prosiect / rhaglen a gyflwynir, gan roi profiad dysgu cyfoethog a chyflawn, sy’n dangos bod prifysgol yn opsiwn i bawb.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ymestyn yn Ehangach yn reachingwider.ac.uk​ neu cysylltwch â’n tîm Ymestyn yn Ehangach yn reachingwider@cardiffmet.ac.uk.