Astudio>Ehangu Mynediad>Cyrsiau Achrededig

 Cyrsiau Achrededig

I gofrestru ar y cyrsiau achrededig rhad ac am ddim canlynol, rhaid bod gennych lefel ofynnol o Saesneg, megis TGAU gradd C neu IELTS 6.0 neu gyfwerth. Cyflwynir yr holl gyrsiau hyn trwy gyfrwng Saesneg.

Addysg Oedolion (Modiwl Achrededig – Lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)


Nod y cwrs achrededig Lefel 3 hwn yw datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn y proffesiwn addysgu oedolion. Mae’r cwrs yn archwilio rolau a chyfrifoldebau tiwtoriaid addysg oedolion, dulliau addysgu a dysgu effeithiol, ac arddulliau dysgu amrywiol. Mae’n codi ymwybyddiaeth o’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fod yn athro effeithiol i oedolion ac i ysgogi myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn creu portffolio ac yn rhoi cyflwyniad i’w asesu ar ddiwedd y cwrs. Mae’r cwrs hefyd yn darparu llwybr dilyniant i’r cwrs addysgu AHO.

Bob Dydd Mawrth: 12 Tachwedd – 10 Rhagfyr 2024

4:00yp-9:00yh​​

Dyddiadau ac amseroedd
12 Tachwedd - 10 Rhagfyr 2024
4:00yp - 9:00yh
Lleoliad: Canolfan Ddysgu Palmerston, Y Bari

Arfer Portffolio Celf a Dylunio (Modiwl Achrededig – Lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)


Mae’r cwrs achrededig newydd sbon hwn yn canolbwyntio ar adeiladu eich arfer celf a dylunio yn fwy ffurfiol. Bydd yn mynd â chi ar daith sy’n ehangu eich sgiliau ymchwilio a datrys problemau ac yn cryfhau eich gallu i archwilio thema yn greadigol, tra’n adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol am liw, dylunio a phatrwm. Bydd yn eich galluogi i arddangos eich sgil, eich gwybodaeth a’ch gallu i eraill mewn ffordd frwdfrydig ac ystyrlon drwy ddatblygu a chyflwyno portffolio, a chewch gyfle i gymryd rhan mewn arddangosfa. Gellir cymhwyso’r theori a’r sgiliau a thrafodwyd i ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Cynlluniwyd y cwrs i baratoi dysgwyr ar gyfer astudio ar lefel Prifysgol a chefnogi dilyniant i ystod eang o gyrsiau israddedig a gynigir yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau blaenorol.

Bob Dydd Iau: 5 Rhagfyr 2024 – 6 Chwefror 2025 (gan gynnwys egwyl ar gyfer gwyliau’r Nadolig)

12:00yp-3:00yp

Dyddiadau ac amseroedd
5 Rhagfyr 2024 - 6 Chwefror 2025
12:00yp - 3:00yp
Lleoliad: Neuadd Llanofer, Caerdydd

Cymdeithaseg


Cymdeithaseg yw’r astudiaeth o sut mae cymdeithas yn dylanwadu arnom a sut rydym yn dylanwadu ar y byd o’n cwmpas. Bydd y cwrs hwn yn eich arwain trwy ddeall materion pwysig mewn cymdeithas gan ddefnyddio lens cymdeithasegol. Byddwch yn dysgu hanfodion cymdeithaseg ac yn gweld bywyd bob dydd mewn ffyrdd newydd. Byddwn yn archwilio damcaniaethau a syniadau cymdeithasegol allweddol, gan eich helpu i ddeall sut mae pobl yn rhyngweithio, yn ffurfio grwpiau ac yn siapio cymunedau. Byddwch yn datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol am y byd a’ch rôl ynddo.

Ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, efallai y cewch gyfle i symud ymlaen i’r rhaglen Sylfaen sy’n arwain at BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasol ym Met Caerdydd.

Bob dydd Mercher: 11 Rhagfyr 2024 – 5 Mawrth 2025 (gan gynnwys egwyl ar gyfer gwyliau’r Nadolig a hanner tymor)

12:30yp-2:30yp

Dyddiadau ac amseroedd
11 Rhagfyr 2024 - 5 Mawrth 2025
12:30yp - 2:30yp
Lleoliad: STAR Hub, Tremorfa

Addysg Oedolion (Modiwl Achrededig – Lefel 3, 10 Credyd Prifysgol)


Nod y cwrs achrededig Lefel 3 hwn yw datblygu’r ​wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn y proffesiwn addysgu oedolion. Mae’r cwrs yn archwilio rolau a chyfrifoldebau tiwtoriaid addysg oedolion, dulliau addysgu a dysgu effeithiol, ac arddulliau dysgu amrywiol. Mae’n codi ymwybyddiaeth o’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fod yn athro effeithiol i oedolion ac i ysgogi myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn creu portffolio ac yn rhoi cyflwyniad i’w asesu ar ddiwedd y cwrs. Mae’r cwrs hefyd yn darparu llwybr dilyniant i’r cwrs addysgu AHO.

Bob Dydd Mawrth: 4 Chwefror – 1 Ebrill 2025

4:00yp-7:00yh​​

Dyddiadau ac amseroedd
4 Chwefror - 1 Ebrill 2025
4:00yp - 7:00yh
Lleoliad: Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd