Astudio>Ehangu Mynediad>Cyrsiau Heb eu Achredu

 Cyrsiau Heb eu Achredu

I gofrestru ar y cyrsiau rhad ac am ddim nad ydynt wedi'u hachredu, nid oes unrhyw ofynion mynediad lleiaf.

Ysgrifennu Creadigol


​​​Nod y cwrs byr hwn yw eich ysbrydoli i fod yn greadigol ac ysgrifennu straeon yr ydych yn angerddol amdanynt. Mae’r cwrs byr hwn yn cyfuno celf neu ddarlunio gyda’r gair ysgrifenedig. Gwellwch eich sgiliau ysgrifennu, meddwl yn feirniadol a myfyrio trwy gydweithio ag eraill. Bydd y cwrs yn annog trafodaeth grŵp agored, adborth cadarnhaol i annog twf personol, ac yn gwella gallu technegol a magu hyder.​

Dyddiadau ac amseroedd
Bob Dydd Gwener: 29ain Medi - 27ain Hydref 2023
10.30yb - 12.30yp
Lleoliad: Sain Ffagan

Fy Mhrofiad o Astudio fel Myfyriwr Hŷn


​​​Ydych chi am wybod sut brofiad ydy bod yn ddysgwr oedolyn ym Met Caerdydd? Gwrandewch ar Straeon ein dysgwyr wrth iddyn nhw rannu eu profiad o ddychwelyd i addysg a dechrau eu teithiau dysgu eu hunain.


Dyddiadau ac amseroedd
-
-
Lleoliad: Ar-lein - YouTube

Nid oes angen ymrestru