Hafan>Astudio>Astudiaeth Ôl-raddedig

Astudiaeth Ôl-raddedig, Broffesiynol ac Ymchwil

Ym Met Caerdydd bydd ein rhaglenni datblygu eich gwybodaeth arbenigol, yn cefnogi eich dyheadau gyrfa ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer astudiaethau pellach.

Gydag academyddion yn cymryd rhan mewn diwydiant ac ymchwil, mae ein rhaglenni wedi’u hanelu at addysg sy’n canolbwyntio ar ymarfer ac a gydnabyddir yn broffesiynol, gan sicrhau effaith uchel drwy ddiwallu anghenion diwydiant a dylanwadu ar gyrff llywodraethol, sefydliadau, a rhwydweithiau ar draws ein pynciau.

Postgraduate Student

Dod o Hyd i’ch Cwrs

Porwch drwy ein detholiad eang o gyrsiau ôl-raddedig a addysgir.

Cyrsiau Ôl-raddedig a Meistr A-Y

Postgraduate Student

Ffioedd, Cyllid ac Ysgoloriaethau

Ffioedd dysgu a chymorth ariannol i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Ffioedd a Chymorth Ariannol

Postgraduate Student

Gwneud Cais Ar-lein

Gwneud cais yn uniongyrchol i’r brifysgol gan ddefnyddio ein gwasanaeth ymgeisio ar-lein.

Gwneud Cais

Myfyrwyr Rhyngwladol

Gwneud cais o dramor? Mae ein Tîm Ymgysylltu Byd-eang yma i helpu.

Gwneud Cais fel Myfyriwr Rhyngwladol

Diwrnodau Agored a Digwyddiadau

Dysgwch fwy am eich cwrs dewisol yn ein Diwrnodau Agored Ôl-raddedig.

Archebwch Ddiwrnod Agored

Cofrestrwch Eich Diddordeb

Cofrestrwch eich diddordeb mewn astudio ar lefel ôl-raddedig ym Met Caerdydd.

Cofrestrwch Eich Diddordeb

Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr

Gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion Met Caerdydd sy’n cofrestru ar raglenni ôl-raddedig*
* Yn Unol ag Amodau

Student Tom in front of wall of design work  
 

“Fy mhrif reswm dros astudio’r MSc oedd i’m paratoi ymhellach ar gyfer y diwydiant. Er fy mod yn credu bod y cwrs israddedig wedi fy mharatoi mwy na digon ar gyfer rôl dylunydd, roeddwn i’n gwybod y gallwn elwa rhagor ar y rhaglen ôl-raddedig; cyfle i fod un cam ar y blaen i’r gystadleuaeth a datblygu dull mwy manwl o ddylunio cynnyrch.”

Tom Fantom
Dylunio Cynnyrch – MSc/PgD/PgC

Mae 95% o’n myfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio neu’n mynd ymlaen i astudio ymhellach o fewn 15 mis i raddio*
* Arolwg Canlyniadau Graddedigion Diweddaraf

Michael Hughes, Programme Director for MSc Sport & Exercise Science  
 

“Ar lefel ôl-raddedig, rydym ni’n aml yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil neu ymarfer proffesiynol, ac mae’r themâu hyn yn cydredeg drwy fy llwybr gyrfa fy hun. Mae fy mhrofiadau yn llywio addysgu a chynllun ein rhaglen i helpu myfyrwyr i gychwyn ar eu llwybrau gyrfa eu hunain. Mae maint cymharol fach y grwpiau’n galluogi trafodaeth go iawn a datblygu sgiliau, sy’n caniatáu i anghenion myfyrwyr gael eu diwallu yn ein goruchwyliaeth, addysgu ac arweiniad.”

Michael Hughes, PhD
Cyfarwyddwr Rhaglen yr MSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Hyfforddi’r Genhedlaeth Nesaf o Athrawon
Teacher with school pupil  
 
Logo - Cardiff Partnership for Initial Teacher Education

Rydym yn gartref i un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Os ydych wedi graddio ac yn angerddol am eich pwnc, rydym yn cynnig cyrsiau sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig.

TAR Cynradd

TAR Uwchradd

Astudiaeth Ymchwil

Gyda chymuned ymchwil ôl-raddedig lewyrchus yn astudio ar draws amrywiaeth eang o bynciau, mae Met Caerdydd wedi ymrwymo’n gryf i gynnal a chefnogi ymchwil sydd ar flaen y gad o ran archwilio gwybodaeth.

Rydym yn cynnig tri llwybr ar gyfer ymchwil ôl-raddedig – MPhil, PhD, a Doethuriaethau Proffesiynol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae opsiynau astudio amser llawn a rhan amser ar gael.

MPhil/PhD

Dyfernir MPhil am lunio traethawd ymchwil o hyd at 60,000 o eiriau sy’n darparu gwerthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff gwybodaeth neu gyfraniad gwreiddiol at ddysgu neu wybodaeth. Dyfernir PhD am lunio traethawd ymchwil hyd at 100,000 o eiriau neu gyfwerth, sy’n darparu’r ddau.

Graddau Ymchwil

Doethuriaethau Proffesiynol

Mae Doethuriaethau Proffesiynol yn cyfuno cydran a addysgir yn ogystal â thraethawd ymchwil hyd at 60,000 o eiriau a phortffolio o ddatblygiad proffesiynol. Mae’r amrediad o Ddoethuriaethau Proffesiynol a gynigir yn Met Caerdydd yn eang ac yn cwmpasu diddordebau ymchwil o bob rhan o’r sefydliad.

Doethuriaethau Proffesiynol

Safle 2 yn Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig y DU 2022 gyda boddhad cyffredinol o 90%.

PhD student Abbie with laptop in hand  
 

“Mae fy mhrofiad fel myfyriwr ôl-raddedig ym Met Caerdydd wedi bod yn un o dwf personol, academaidd a phroffesiynol aruthrol. Mae’r staff yn ofalgar, yn llawn anogaeth, ac wedi gwneud i mi deimlo fel rhan o dîm. Mae fy ngoruchwylwyr wedi fy arwain mewn ffordd sydd wedi datblygu fy hyder a’m hannibyniaeth yn fawr.

Mae’r gwaith ymchwil a wnes i yn ystod fy PhD wedi fy ngalluogi i ddatblygu technoleg a meddalwedd arloesol, a chanllawiau newydd sydd wedi cael goblygiadau go iawn yn niwydiant bwyd Cymru.”

Abbie Lawrence
PhD, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

Dangosodd canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 fod Met Caerdydd wedi cynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf yn ei chyflwyniad cyfan drwyddi draw, gyda bron i ddau draean o allbynnau’r ymchwil yn cael eu hystyried yn Rhagorol yn Rhyngwladol neu eu bod yn Arwain y Byd.

Met Caerdydd yn Cyflawni Ymchwil ac Effaith sy’n Arwain y Byd

Academïau Byd-eang

Mae Academïau Byd-eang yn dwyn ein harbenigedd ymchwil ynghyd i ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac effeithiol i rai o’r heriau mwyaf hir sefydlog sy’n effeithio arnom. Trwy ein cryfderau ym meysydd addysg, ymchwil ac arloesi ynghyd, ein nod yw helpu i wella’r byd o’n cwmpas mewn modd cydweithredol a thosturiol.

Academïau Byd-eang