Seicoleg Gymhwysol a Newid Ymddygiad
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys staff o'r Adran Seicoleg Gymhwysol, y mae eu hymchwil yn canolbwyntio ar nifer o feysydd. Un o'r prif bryderon yw deall y seicoleg sy'n sail i newid ymddygiad, gyda'r nod o greu newid cadarnhaol drwy ymchwil cymhwysol. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall a hyrwyddo llesiant pobl. Gellir cymhwyso hwn i ystod o ymddygiadau, megis: claf yn cadw at ei feddyginiaeth; rhagnodi effeithiol a diogel gan ymarferwyr clinigol; arferion iechyd a llesiant yn y gweithle; gwneud penderfyniadau ar y cyd; atal trais ar sail rhywedd, ynghyd ag ymddygiadau cyhoeddus eraill.
Mae ein hymchwil yn ymwneud â newid ar lefel unigolyn ac ar lefel gymdeithasol. Ym maes fforensig, mae ymchwil wedi archwilio ffactorau'n ymwneud ag ymddygiadau troseddol, gan ystyried ffactorau achlysurol mewn troseddau a materion iechyd meddwl ac effeithiolrwydd triniaethau. Mae ein hymchwil hefyd yn canolbwyntio ar y prosesau sy'n sail i feddwl a gweithredoedd pobl. Mae astudiaethau wedi archwilio effeithiau ymyriadau gweledol a chlybodol, ynghyd â rôl emosiynau mewn prosesau penderfynu.
Meysydd Ymchwil / Arloesi
Seicoleg Fforensig
Mae Ymchwil Seicoleg Fforensig yn cynnal ymchwil a gydnabyddir yn fyd-eang, ac mae'n darparu hyfforddiant o ansawdd uchel i ymarferwyr Fforensig mewn lleoliadau cymhwysol. Mae gan y grŵp gysylltiadau cryf gyda darparwyr gwasanaethau lleol a chenedlaethol i droseddwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'r grŵp yn cynnal ymchwil mewn ystod o feysydd sy'n berthnasol i'n dealltwriaeth o ffactorau achosol ar gyfer troseddau, ac mae ganddo gysylltiadau agos â Chanolfan Troseddau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Troseddwyr Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar droseddu rhyngbersonol difrifol ac ar wasanaethau/ymyriadau ar gyfer troseddwyr rhyw a threisgar.
Aelodau Staff Allweddol:
Dr Andrew Watt
Dr Nic Bowes
Dr Ruth Bagshaw
Dr Daniel Stubbings
Dr Britt Hallingberg
Dr Karen De Claire
Ms Leanne Watson
Prif Gyhoeddiadau:
Lawrence, D., Lee-Davies, T., Bagshaw, R., Hewlett, P., Taylor, P., & Watt, A. (2018). External validity and anchoring heuristics: application of DUNDRUM-1 to secure service gatekeeping in South Wales. British Journal of Psychiatry Bulletin, 42:1, 10-18.
Bowes, N., McMurran, M., Evans, C., Oatley, G., Williams, B. & David, S. (2014) Treating alcohol-related violence: a feasibility study of a randomized controlled trial in prisons , The Journal of Forensic Psychiatry & Psychology, 25:2, 152-163.
De Claire, K. & Dixon, L. (2015). The Effects of Prison Visits From Family Members on Prisoners' Well-Being, Prison Rule Breaking, and Recidivism: A Review of Research Since 1991. Trauma Violence Abuse.
Moore, G., Cox, R., Evans, R., Hallingberg, B., Hawkins, J., Littlecott, H., Long, S.J. & Murphy, S. (2018). School, Peer and Family Relationships and Adolescent Substance Use, Subjective Wellbeing and Mental Health Symptoms in Wales: a Cross Sectional Study. Child Indicators Research, 1-15.
De Claire, K., Dixon, L. and Larkin, M. (2019) 'How prisoners and their partners experience the maintenance of their relationship during a prison sentence', Journal of Community and Applied Social Psychology. DOI: 10.1002/casp.2445.
Miles, C. & De Claire, K.(2018) Rapid Evidence Assessment: What works with domestic abuse
perpetrators https://gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2019-06/181204-rapid-evidence-assessment-what-works-domestic-abuse-perpetrators-en.pdf
Seicoleg Iechyd
Nod y grŵp ymchwil Seicoleg Iechyd yw deall a gwella iechyd a llesiant ar lefelau unigol, cymunedol, ac ar lefel y boblogaeth. Mae ein hymchwil yn cwmpasu cymhwysiant damcaniaeth seicolegol, technegau newid ymddygiad, a dulliau therapiwtig i wella iechyd a llesiant, atal salwch, a gwella dulliau o reoli salwch. Felly, rydym yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac yn aml mewn timau aml-ddisgyblaethol.
Mae ein meysydd ymchwil presennol yn cynnwys:
• Ymddygiad Iechyd: defnydd o sylweddau, ymddygiad bwyta, defnydd o feddyginiaethau, defnydd o amser hamdden wedi'i drefnu, a hunan-ofal er mwyn gwella llesiant.
• Profiad cleifion: canfyddiadau o ddiagnosis a thriniaeth, rhannu penderfyniadau, a hyfforddiant cyfathrebu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyflyrau hirdymor, fferylliaeth gymunedol, iechyd atgenhedlu menywod, a heintiau cyffredin
• Datblygu a gwerthuso ymyriadau iechyd cymhleth: cymhwyso technegau a damcaniaeth newid ymddygiad mewn ymyriadau cymhleth, cyd-gynhyrchu, a datblygu dulliau ymchwil. Mae gennym arbenigedd penodol mewn methodoleg astudiaethau dichonoldeb a pheilota, dulliau cymysg, a defnydd o ddulliau ansoddol creadigol/cyfranogol.
Aelodau Staff Allweddol:
Dr Heidi Seage
Dr Amie Prior
Dr Delyth James
Dr Rhiannon Phillips
Dr Britt Hallingberg
Dr Caroline Limbert


Seicoleg Gwybyddol
Mae Ymchwil Seicoleg Gwybyddol yn cymhwyso damcaniaeth ac ymchwil seicoleg gwybyddol i sefyllfaoedd ymarferol, gan archwilio ei effaith ar gymunedau penodol a'r gymdeithas yn ehangach. Felly, mae ein meysydd diddordeb yn eang, ac yn aml maent yn gorgyffwrdd â meysydd seicoleg eraill a disgyblaethau eraill. Rydym yn rhan o ymchwil sy'n gysylltiedig â: gwrthdyniad a pherfformiad, atyniad a chyd-berthynas, penderfynu a rhesymu, ac emosiwn, tymer a gwybyddiaeth.
Mae gan y grŵp gwybyddol ddiddordeb mewn ystod o ffenomena gwybyddol gan gynnwys, ymhlith eraill, gwrthdyniad clybodol, ymyriadau, dysgu cyflyrol, seicoleg esblygol, llesiant, gorfwyta, a gweithredu gweithredol.
Aelodau Staff Allweddol:
Dr Nick Perham
Dr Helen Hodgetts
Dr Deiniol Skillicorn
Dr Mike Dunn
Dr Paul Hewlett
Dr Heidi Seage
Dr Andy Watt
Aelodau'r Grŵp
Cydweithwyr
Mewnol
Dr Fei Zhao, Adran Gofal Iechyd a Bwyd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Mr Tony Smith, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Allanol
Dr John Marsh, Prifysgol Swydd Gaerhirfryn Ganolog
Dr François Vachon, Université Laval
Dr Andrew Evered,
Yr Athro Sébastien Tremblay, Université Laval
Yr Athro Phil Reed, Prifysgol Abertawe
Yr Athro Bob Snowden, Prifysgol Caerdydd
Jamie Hayes, Canolfan Adnoddau Moddion Cymru (WeMeRec)
Andrew Evans, Llywodraeth Cymru
Paul Gimson, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Howard Rowe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
David McRae, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Alison Sparkes, The Health Dispensary (Castell-nedd)
Dr Debbie Woodward, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Toni Hoefkens, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Dr Jenny Moses, Ysbyty Rookwood, Caerdydd
Enghreifftiau o Gyllid
CMK215 - Beth sy'n newid i gleifion mewn gofal diogel canolig? Astudiaeth olrhain hirdymor o ganlyniadau, gofal, goruchwyliaeth a phrofiad cleifion. KESS2 wedi'i gyd-ariannu gyda Gwasanaeth Iechyd Meddwl Fforensig De Cymru. (~£52K)
CMK214 - Datblygu dulliau ymarferol o fesur diluddiannu canolog ac anghymdeithasoldeb mewn lleoliadau clinigol. KESS2 wedi'i gyd-ariannu gyda Gwasanaeth Iechyd Meddwl Fforensig De Cymru (~£52K)
CMK216 - Magu pwysau mewn lleoliadau seiciatrig diogel: Rôl tuedd sylwol, straen a ffactorau dietegol. KESS2 wedi'i gyd-ariannu gyda Gwasanaeth Iechyd Meddwl Fforensig De Cymru (~£52K)
Lleihau arfer cyfyngol mewn gofal iechyd meddwl diogel. Ariannwyd gan Grŵp The Priory PLC. (~£16.5K)
CF PROSPER: Data Canlyniadau'n ymwneud â Beichiogrwydd Ffibrosis Cystig i Gefnogi Dewisiadau Personol. Cyllid: £228k, Ymchwil er Lles Cleifion a'r Cyhoedd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, 2019-2021.
Lights4Violence: Lights, camera and action AGAINST DATING VIOLENCE. Ariannwyd fel rhan o Horizon2020, 2017-2019.
KESS-II Cyllid PhD (o Ionawr 2017)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (2016).
Cynllun "Dechrau Arni" Prifysgol Metropolitan Caerdydd (2015)
NISCHR (2014). "Gwella Ansawdd Bywyd ar ôl Anaf i Fadruddyn y Cefn: astudiaeth dichonoldeb a dylunio ymyrraeth.