Mae’r grŵp ymchwil bioaerosol, o dan arweiniad Dr Peter Sykes, yn canolbwyntio ar effeithiau cysylltiad galwedigaethol ac amgylcheddol â bioaerosolau ar iechyd pobl. Mae gan y grŵp ddiddordeb penodol mewn asesu a rheoli cysylltiad gweithwyr â bioaerosolau yn y sector gwastraff ac adnoddau.
Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar fyd diwydiant ac mae’n gweithio gyda llawer o gwmnïau gwastraff ledled y DU; hefyd, mae’n ymgymryd â llawer o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth â’r sector gwastraff. Mae gan y grŵp brofiad helaeth o ymgymryd â phrosiectau ymchwil contractau mawr yn y maes hwn.
Un o feysydd gweithgarwch allweddol y grŵp yw deall senarios cysylltiadau gweithwyr â bioaerosolau a’u heffeithiau ar iechyd gweithwyr gan greu sylfaen dystiolaeth sy’n galluogi gweithgareddau lliniaru risg cymesur ledled y sector.
Dr Sykes yw Cadeirydd Grŵp Creu Gweithleoedd Mwy Iach a Bioaerosolau Fforwm Iechyd a Diogelwch y Diwydiant Gwastraff (WISH) a gynhelir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), ac mae’r grŵp yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatblygu polisi yn y sector a datblygu canllawiau. Mae rhagor o wybodaeth am WISH ar gael yn https://www.hse.gov.uk/waste/wish.htm
Os hoffech siarad ag aelod o’r grŵp ymchwil bioaerosol cysylltwch â Dr Peter Sykes neu Gayle Davis.
Mae’r Athro George Karani, Athro Iechyd Amgylcheddol, yn arwain y grŵp ymchwil. Arwyddair y grŵp yw Mynd i’r Afael â Heriau a Chyfleoedd trwy Bartneriaeth er mwyn gwella ansawdd bywyd trwy gynnwys pob rhanddeiliad priodol.
Mae prosiectau’r grŵp ymchwil yn ymwneud â Llygredd ac Iechyd, clefydau sy’n Gysylltiedig â Thlodi, a Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae’r tîm yn cydweithio â phartneriaid ymchwil lleol, rhanbarthol a rhyngwladol ar geisiadau grant ar y cyd, cyhoeddiadau, goruchwylio ymchwil ôl-radd, seminarau, cynadleddau a gweithgareddau arloesi. Rydym yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Prifysgol Nottingham a Phrifysgol De Cymru, grwpiau cymunedol a phartneriaid diwydiannol. Ar hyn o bryd, mae gennym bartneriaid tramor yng Nghamerŵn, Ghana, Kenya, Nigeria, Oman, Qatar, Rwanda, yr Emeriaethau Arabaidd Unedig a Uganda.
Mae’r grŵp yn cynnig nifer o raddau PhD a Doethuriaeth Broffesiynol ar unrhyw adeg. Mae cydweithredwyr wedi cynnwys Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Corfforaeth Gofal Iechyd Sylfaenol Qatar a Phrifysgol Amaethyddiaeth a Thechnoleg Jomo Kenyatta, JKUAT, Kenya. Mae’r rhan fwyaf o ddata’r gwaith maes wedi’i gasglu yn Qatar, Cymru, Kenya, yr Emeriaethau Arabaidd Unedig a Nigeria.
Mae gwybodaeth am ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi, ceisiadau grant a hyfforddiant a ddarperir gan aelodau’r grŵp ar gael ar eu tudalennau proffil unigol.
Enwebodd yr Athro Karani yr Athro Mabel Imbuga, Is-Ganghellor JKUAT y dyfarnwyd DSc er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Gorffennaf 2018. Dyfarnwyd gradd Athro er Anrhydedd mewn Epidemioleg Gymhwysol i Dr. Daniel Thomas, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ym mis Ebrill 2019.
Hyfforddiant SDG Doha, Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Robinson yn cyfarfod â Llywydd Prifysgol Qatar
Is-Ganghellor JKUAT gydag arglwydd Faer Caerdydd ar ôl derbyn DSc er Anrhydedd.
EHOAN yn mynychu cwrs hyfforddi wythnos ym Met Caerdydd. Ymweliad â’r Senedd yn 2019
Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu gwasanaethau ymgynghori amrywiol i bob rhan o’r diwydiant bwyd gan gynnwys microfusnesau a BBaChau.
Mae’r Ganolfan yn cyflogi technolegwyr bwyd a diod profiadol, arbenigwyr busnes a staff academaidd amrywiol sy’n gallu rhoi cyngor ar bob agwedd ar ddiogelwch bwyd ar draws amrywiaeth eang o sectorau busnesau bwyd.
O ganlyniad, gallwn fanteisio ar amrywiaeth eang o arbenigedd, gan gynnwys maetheg, deieteg, deddfwriaeth bwyd, iechyd yr amgylchedd a safonau masnach.
Mae’r adran ganlynol yn darparu rhestr fer o’r prosiectau enghreifftiol a gwblhawyd gan aelodau’r grŵp. Os hoffech wybod mwy am brosiectau unigol a gwblhawyd gan aelodau’r grŵp, neu drafod prosiect newydd, cliciwch ar eu tudalen broffil.
Llywodraeth Cymru: Adolygiad Annibynnol o'r Ddarpariaeth o Wasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu yng Nghymru (gweithio mewn partneriaeth ag Emma George Consulting)
Prosiect KESS II gyda Ffatri Peiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr: Gwella ymgysylltiad â gweithwyr cyflogedig i ddatblygu diwylliant diogelwch cadarnhaol yn ffatri Ford.
Grŵp Llywio Penaethiaid Bro Morgannwg: Prosiect cwmpasu iechyd a llesiant – Penaethiaid Bro Morgannwg. Adolygiad o straen ymysg penaethiaid yng Nghymru.
KESS II – y Dwyrain: Cyllid ar gyfer gradd meistr er mwyn ymchwilio i’r rhesymau am beidio â mynychu Rhaglen Archwilio Iechyd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Cyllid mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adolygiad rhaglen annibynnol o’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghymru (gweithio mewn partneriaeth ag Emma George Consulting).