Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yw'r brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd

Met Caerdydd yw'r brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd

​Newyddion | 6 Rhagfyr 2022

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet 2022/23.

Cynghrair Werdd People & Planet yw’r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol sy’n rhestru holl brifysgolion y DU yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol.

I ychwanegu at yr anrhydedd hwn, mae Met Caerdydd newydd gael ei rhestru fel prifysgol haen aur yn Adroddiad Prifysgolion Gwyrdd Uswitch 2022, sy’n amlygu ymrwymiad prifysgolion y DU i gynaliadwyedd.
Mae Met Caerdydd wedi gweithio’n helaeth mewn sawl maes, sydd wedi arwain at fanteision enfawr i fyfyrwyr, staff ac aelodau’r gymuned.

Mae gan y Brifysgol osodiadau adnewyddadwy ar y campws, gan gynnwys paneli solar, paneli thermol solar, a phwmp gwres ffynhonnell aer, ac mae wedi cofrestru ar gyfer tariff ynni gwyrdd ar gyfer ei thrydan ar y ddau gampws.

Mae’r Brifysgol yn rhedeg sawl menter ecogyfeillgar, gan gynnwys: diwrnodau cymunedol; beiciau trydan y gellir eu gwefru a’u rhentu; gwasanaeth bws â chymhorthdal i staff a myfyrwyr; a phedwar cerbyd trydan fel rhan o’i fflyd.

Mae Met Caerdydd hefyd yn trefnu casglu cwpanau coffi untro; ailddefnyddio offer swyddfa/dodrefn; rhoi i ysgolion ac elusennau lleol; caffis trwsio am ddim; a sesiynau casglu sbwriel cymunedol.
Yn ogystal, mae gan Met Caerdydd achrediad Masnach Deg; mae’n gyflogwr Cyflog Byw; mae wedi ennill gwobr 3 seren aur y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy gyda pholisi bwyd cynaliadwy; mae ganddi bolisi buddsoddi moesegol; mae’n llofnodwr yr addewid ‘Can’t Buy My Silence’; ac mae’n rhedeg lleoliadau gwaith cynaliadwyedd â myfyrwyr.

Meddai Rachel Roberts, Rheolwr Ymgysylltu â Chynaliadwyedd: “Mae cynaliadwyedd yn sicr ar yr agenda ym Met Caerdydd ac rydym wedi gwneud cynnydd anhygoel yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi cael ei adlewyrchu yn ein cynnydd yng Nghynghrair Werdd People and Planet.

“Rydyn ni’n gweithio ar draws pob Ysgol ac uned broffesiynol i greu diwylliant ac amgylchedd lle mae cynaliadwyedd yn cael ei flaenoriaethu bob amser, boed hynny’n drafnidiaeth, ynni, bwyd neu fuddsoddi.”
Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: “Rydyn ni’n disgrifio cymuned Met Caerdydd fel un sy’n cael ei ‘gyrru gan werthoedd’, ac felly mae canolbwyntio ar ddatblygu ein perfformiad moesegol ac amgylcheddol yn cyd-fynd yn llwyr â’r ymagwedd hon. Mae cymuned gyfan Met Caerdydd yn falch iawn o gael ei henwi fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino i gyfrannu at y cyrhaeddiad cenedlaethol arwyddocaol hwn.

“Yr wythnos hon, caiff Strategaeth 2030 ei lansio, ein cynllun strategol newydd sy’n rhoi cynaliadwyedd yn ganolog iddo drwy nodi ‘Dyfodol Carbon Isel’ fel un o bum blaenoriaeth strategol ar gyfer y brifysgol. Un o’n blaenoriaethau eraill yw datblygu ‘Campws 2030’ drwy fuddsoddi’n fawr yn ystâd ein prifysgol o ganlyniad i Brif Gynllun sy’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd ac sy’n cynnwys targedau uchelgeisiol ar gyfer creu ystâd carbon sero net erbyn 2030. Wrth i ni gychwyn ar y camau nesaf hyn, mae’n arbennig o braf gwybod pa mor dda yr ydym yn perfformio ar hyn o bryd mewn cymhariaeth â mwy na 150 o brifysgolion yn y DU.

“Gall ein myfyrwyr fod yn sicr eu bod nhw’n rhan o gymuned sy’n cymryd ei chyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd a chynaliadwyedd o ddifrif ac sydd wedi, ac a fydd yn parhau i gymryd camau pellach dros y blynyddoedd nesaf fel ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Dywedodd Jack Ruane, Rheolwr Cynghrair y Prifysgolion, People and Planet: “Llongyfarchiadau enfawr i Brifysgol Metropolitan Caerdydd am eu cyrhaeddiad eithriadol o fod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i orffen ar frig Cynghrair Prifysgolion People & Planet. Gellir priodoli’r perfformiad gwych hwn i’w hymrwymiad byth i fuddsoddi yn y diwydiant ffiniau a gostyngiad o 65% mewn allyriadau carbon rhwng 2005/6 a 2020/21.”

Mae Met Caerdydd wedi bod yn dringo Cynghrair Werdd People and Planet yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf – gan berfformio’n dda ym mis Rhagfyr 2021 pan gafodd ei rhestru yn y safle 1af yng Nghymru ac yn gydradd 5ed yn y DU, o 154 o brifysgolion a aseswyd.

Mae People and Planet yn ei ddisgrifio’i hun fel ‘y rhwydwaith mwyaf o fyfyrwyr yn y DU sy’n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol’. Mae’n cynnal arolwg blynyddol o holl brifysgolion y DU, gan asesu perfformiad ‘amgylcheddol a moesegol’ yn ôl ei fethodoleg a bennwyd ganddo’i hun. Nid yw prifysgolion yn dewis cymryd rhan, gan fod y fethodoleg yn seiliedig ar wybodaeth a gyhoeddir ar wefannau prifysgolion a’u data perthnasol gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Mae methodoleg y Gynghrair Werdd yn seiliedig ar dros 100 o ddangosyddion, wedi’u grwpio yn 14 pennawd, sy’n profi ymrwymiad, polisi a pherfformiad mewn cynaliadwyedd.