Hafan>Newyddion>Dau benodiad newydd i Fwrdd Llywodraethwyr Met Caerdydd

Dau benodiad newydd i Fwrdd Llywodraethwyr Met Caerdydd

​Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn croesawu dau Aelod Annibynnol newydd i'w Bwrdd Llywodraethwyr, pob un yn dod â sgiliau, safbwyntiau ac arbenigedd penodol i lywio'r sefydliad tuag at lwyddiant yn y dyfodol. Cafodd eu penodiadau eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ddydd Iau 22 Chwefror 2024.​

Kevin Coutinho, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a'r Cyfarwyddwr, Windsor Fellowship​

Kevin Coutinho"Rwy'n falch iawn o ymuno â bwrdd prifysgol sy'n canolbwyntio ar ddarparu mynediad i addysg uwch o ansawdd uchel i'r gymuned.

 Mae Met Caerdydd yn adlewyrchu fy angerdd dros fynediad a chynhwysiant i bawb ac edrychaf ymlaen at wasanaethu'r sefydliad, ei myfyrwyr a'i staff."​

Dr Giri Shankar MBE, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru​

Dr Giri Shankar MBE"Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â Bwrdd y Llywodraethwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hwn yn gyfnod heriol ond cyffrous i'r brifysgol gan ei bod yn cychwyn ar daith uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf. Rwy'n gobeithio gallu dod â'm profiad a'm harbenigedd o safbwynt iechyd ac iechyd cyhoeddus, i gyfrannu at weledigaeth y bwrdd.

Edrychaf ymlaen at gefnogi cryfhau cydweithrediadau rhyngwladol y brifysgol yn ogystal â hyrwyddo'r agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant." ​