Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn cynnig lloches i academyddion o Afghanistan

Met Caerdydd yn cynnig lloches i academyddion o Afghanistan

Newyddion |19 Awst 2021

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cynnig lloches i academyddion sy'n ffoi o Afghanistan o ganlyniad i'r argyfwng gwleidyddol presennol.

Mae'r Llywydd a'r Is-Ganghellor, yr Athro Cara Aitchison, wedi ysgrifennu at Zeid Al-Bayaty o Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA) i gynnig cymorth i academyddion o Afghanistan sy'n chwilio am loches yn y DU.

Dywedodd yr Athro Aitchison: "Er ein bod yn cydnabod yr angen i dalent academaidd a gwyddonol aros yn Afghanistan i gynnig y gorau i ddyfodol y wlad, rydym hefyd yn gwerthfawrogi efallai na fyddai hyn yn bosibl i bob academydd, yn y tymor byr o leiaf. O'r herwydd, hoffem gynnig lloches briodol a byddem yn hapus i dalu costau cynnal hyd at bedwar aelod o staff academaidd ar unwaith. 

"Mae Cymru yn genedl groesawgar ac mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi cyhoeddi eu heddiw, eu parodrwydd i gartrefu teuluoedd sydd wedi'u dadleoli o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd yn y wlad. Gan weithio gydag awdurdodau lleol mae posibilrwydd o gysylltu cyflogaeth seiliedig ar loches â llety. "

Met Caerdydd, a gafodd ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a'r Sunday Times, yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei dynodi'n Brifysgol Noddfa ac mae'r Athro Aitchison yn aelod o'r Grŵp Llywio Prifysgolion Noddfa'r DU a sefydlwyd yn ddiweddar.

Mae gan y Brifysgol enw da am ddarparu 'Ysgoloriaethau Noddfa' i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy'n ceisio lloches ac mae bellach yn ymestyn y cynnig hwn i staff academaidd.