Hafan>Newyddion>Gall llwy de o fwstard grawn cyflawn helpu i leihau’r lefelau o glwcos neu golesterol yn y gwaed mewn cleifion hŷn neu glinigol ordew

Astudiaeth newydd yn dangos y gall llwy de o fwstard grawn cyflawn helpu i leihau’r lefelau o glwcos neu golesterol yn y gwaed mewn cleifion hŷn neu glinigol ordew

​Newyddion | 4 Tachwedd 2021

Mae astudiaeth newydd gan Dr Ruth Fairchild o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a gafodd ei gyflwyno heddiw, 4 Tachwedd 2021, yn Ffederasiwn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd Ewrop (EFFoST), wedi darganfod y gall bwyta llwy de o fwstard grawn cyflawn bob nos cyn mynd i’r gwely helpu i leihau’r lefelau glwcos a/neu golesterol yn y gwaed.

Bu’r astudiaeth, a gafodd ei hariannu gan Tracklements, yn archwilio effaith bwyta llwy de o fwstard grawn cyflawn bod dydd am gyfnod o 12 wythnos. Fe ddangosodd yr astudiaeth o 42 o gyfranogwyr, gwelodd 86% ohonynt gwymp sylweddol yn lefelau glwcos a/neu golesterol yn eu gwaed, o'i gymharu o’r 14% na welodd unrhyw ymateb positif o ganlyniad defnyddio'r mwstard Tracklements.

Er y gwelwyd gostyngiad yn lefelau glwcos yn y gwaed ymysg 24% o'r cyfranogwyr, gwelwyd gostyngiad llawer mwy o 46% mewn tri chyfranogwr oedd yn gynddiabetig ar ddechrau'r astudiaeth. Gwelwyd gostyngiad sylweddol lefelau colesterol yng ngwaed yr ymatebwyr ar ol iddynt ymprydio o 10%, tuag at y terfyn uchaf norm cyfanswm colesterol yn y gwaed. Mae'r dirywiad addawol hwn ymysg y grŵp risg uchel hwn ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd yn adlewyrchu gostyngiad colesterol tebyg a welir gan y rhai sy'n dilyn diet braster isel.

Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi’r awgrym pe bai'r un dull yn cael ei ailadrodd ledled y DU, lle credir bod tua saith miliwn o bobl mewn cyflwr cynddiabetig, y gallai tua 525,000 o bobl elwa. Bu’r holl gyfranogwyr, a oedd rhwng 40-70 oed a naill ai’n ordrwm neu'n ordew, yn bwyta'r mwstard naill ai ar gracer fach neu ar ei ben ei hun cyn mynd i'r gwely bob nos.

Helpodd hyn i sicrhau mewnlifiad y mwstard, gan wella ei wahanol gydrannau ac osgoi bwyta gormod yn ystod pryd bwyd. Gwiriwyd glwcos yn y gwaed a chyfanswm y lefelau colesterol dair gwaith: unwaith cyn dechrau'r astudiaeth, eto ar ol pythefnos (i asesu unrhyw effaith tymor byr) ac yn olaf ar ol 12 wythnos.

Yn ddieithriad, dychwelodd lefelau glwcos ar ™l ymprydio pob cyfranogwr cynddiabetig i’w lefelau normal erbyn diwedd yr astudiaeth.

Dywedodd Dr Ruth Fairchild, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a fu’n arwain yr astudiaeth: "Er bod astudiaethau mwy diweddar wedi canolbwyntio ar ddefnyddio mwstard grawn cyflawn fel deunyddiau maethol-fferyllol
i leihau lefelau glwcos neu golesterol yn y gwaed, a dyma'r tro cyntaf i ymchwil o'r math hwn gael ei gynnal, gan agor y posibilrwydd o ymchwil bellach i fuddion iechyd mwstard grawn cyflawn. ymhlith cleifion cynddiabetig. Fodd bynnag, hyd nes y cyflwynir tystiolaeth wyddonol bellach, rydym yn cynghori bod yn ofalus ynghylch y rhai sydd eisoes yn cael eu trin am ddiabetes a ddylai aros ar unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn. "