Hafan>Newyddion>Yr awgrymiadau gorau oddi wrth Met Caerdydd ar gyfer y Mis Ysgrifennu Nofel Cenedlaethol

Yr awgrymiadau gorau oddi wrth Met Caerdydd ar gyfer y Mis Ysgrifennu Nofel Cenedlaethol

Tachwedd 11, 2019

Cardiff Metropolitan University
Dr Dan Anthony, Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol


​Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhannu ei hawgrymiadau gorau gydag egin-awduron yn ystod Mis Ysgrifennu Nofel Cenedlaethol, a gynhelir drwy gydol mis Tachwedd.  

Mae Mis Ysgrifennu Nofel Cenedlaethol (sy'n aml wedi'i dalfyrru i NaNoWriMo yn Saesneg) yn brosiect ysgrifennu creadigol blynyddol ar y rhyngrwyd a fydd yn digwydd yn ystod mis Tachwedd. Bydd y cyfranogwyr yn ceisio ysgrifennu llawysgrif 50,000 o eiriau rhwng Tachwedd 1 a Tachwedd 30. Bydd awduron enwog yn ysgrifennu geiriau o anogaeth i gael ysgogi'r cystadleuwyr ar hyd y broses.

Nid yw ysagrifennu yn beth dieithr i'r Dr Dan Anthony, Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ac Addysg Entrepreneuriaeth Menter ym Met Caerdydd. Mae disgwyl i'w wythfed llyfr, Submarine Spies and the Unspeakable Thing, ddod allan y flwyddyn nesaf. Mae e wedi ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y teledu a'r radio, gan gynnwys cyfres gomedi a straeon byrion ar gyfer Radio 4, Radio 3 a Radio Wales, yn ogystal â gweithio ar The Story of Tracey Beaker i CBBC.

Meddai'r Dr Anthony: "Dechreuais ysgrifennu pan oeddwn yn yr ysgol ond roedd sillafu a llawysgrifen bob amser yn broblem. Felly fe wnaeth athrawon fy adnabod yn bendant yn rhywun na allai ysgrifennu. Mae'n bosib dyna pam rwy'n ysgrifennu llyfrau i blant.

"Rwyf yn ymchwilio i eiddo deallusol a'i berthynas â chreadigrwydd ac mae diddordeb mawr gen i ym mhroses rhoi'r sgiliau i'n myfyrwyr y bydd eu hangen er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus mewn economi entrepreneuraidd a busnes-gyfeiriedig. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith y byddaf yn ei ysgrifennu wedi'i ysbrydoli gan Gymru, lle rwy'n byw."

"Bydd myfyrwyr ysgrifennu creadigol yn gwybod nad oes dim rhestr wirio ar gael a fydd yn gwarantu llwyddiant i ysgrifennwr. Ond mae rhai pethau defnyddiol sy'n werth eu cofio. Mae llinell enwog William Goldman 'nobody knows anything' wedi fy ysbrydoli erioed.

"Pan ddaw i greu straeon diddorol, caiff brân edrych ar y brenin. Felly, peidiwch â bod ag ofn dweud yn union beth rydych ei eisiau yn y ffordd orau y gallwch. I gael gwneud hynny, bydd angen meddwl agored arnoch a pharodrwydd i weithio ar destun, ail ysgrifennu, ail ysgrifennu ac ail ysgrifennu hyd na ellir ei wella, yna, pan gaiff ei gyhoeddi, fe welwch sut y gallech ail ysgrifennu a'i wella."

Fe wnaeth Özgür Uyanık astudio MA Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg ym Met Caerdydd gan raddio yn 2018. Caiff Conception, nofel gyntaf Özgür, ei chyhoeddi gan Fairlight Books ym mis Mai 2020. Mae Conception, sy'n gomedi ddu, yn siwrnai seicopath ac yn archwiliad tywyll o werth masnachol celf gyfoes, yn ceisio ateb cwestiwn pwy a beth fydd yn pennu gwerth celf yn ogystal ag yn mentro mewn ffordd ddiddorol i feddwl artist cythryblus iawn.

Meddai Ozgur: "Yn ystod fy amser ym Met Caerdydd, fe wnaeth cwrdd â chydfyfyrwyr ysgrifennu a thrafod ein gwaith yn y dosbarth helpu fy nghymhelliad yn wirioneddol, ac roedd archwilio agweddau gwahanol llenyddiaeth Saesneg wedi agor gorwelion meddwl a chreadigrwydd newydd a wnaeth fwydo fy mhroses ysgrifennu.

"Fe wnaeth Mis Ysgrifennu Nofel Cenedlaethol fy helpu i gynhyrchu'r drafft cyntaf hollbwysig, hynod anodd ei gyflawni. Unwaith cafodd hyn ei gyflawni, dechreuodd y gwaith go iawn gan fod ysgrifennu yn golygu llawer o ail ysgrifennu.  

"I unrhyw egin-ysgrifenwyr, fe ddwedwn i fod darllen rheolaidd yn rhan enfawr o'r broses ysgrifennu ac weithiau gall hyn gael ei esgeuluso. Hefyd, dewch yn gyfarwydd â siarad yn gryno ac yn glir am eich gwaith a'ch syniadau gyda ffrindiau, teulu a dieithriaid fel ei gilydd gan ei fod yn helpu i grisialu eich meddwl chi eich hunan ac mae'n sgil amhrisiadwy os byddwch am gysylltu ag asiantiaid a chyhoeddwyr."

Dechreuodd Mis Ysgrifennu Nofel Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 1999 gyda 21 o gyfranogwyr. Erbyn 2010 fe wnaeth mwy na 200,000 o bobl gymryd rhan ac ysgrifennu cyfanswm o fwy na 2.8 biliwn o eiriau.