Hafan>Newyddion>Datganiad ar gyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU

Datganiad ar gyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU ar gap arfaethedig yn y niferoedd ar gyfer myfyrwyr o Loegr sy'n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru

Ym Met Caerdydd, rydym wedi cynnal ein hymagwedd sy'n seiliedig ar werthoedd tuag at wneud penderfyniadau ac wedi blaenoriaethu iechyd a lles ein myfyrwyr a'n staff drwy gydol yr argyfwng coronafeirws.

Rydym wedi ceisio sicrhau ein bod yn rhoi i'n myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr y sicrwydd a'r eglurder y mae arnynt eu hangen ar y cyfle cyntaf posibl, ac rydym yn cydnabod y gall rhai ymgeiswyr bellach fod yn wynebu ansicrwydd ychwanegol yng ngoleuni cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU ar gap arfaethedig mewn niferoedd i fyfyrwyr sy'n hanu o Loegr sy'n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru.  

Rydym eisiau sicrhau ein darpar fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr, neu yn unrhyw le arall yn y DU, na fyddant dan anfantais oherwydd y cyhoeddiad hwnnw. P'un ai ydynt eisoes wedi ymgeisio neu ar fin gwneud cais, wedi derbyn cynnig diamod neu gynnig amodol, wedi derbyn lle gyda ni ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf neu'n dal i ystyried eu hopsiynau, ein hymrwymiad yw na fydd unrhyw ymgeisydd dan anfantais oherwydd lle maent yn byw. 

Gwyddom y bydd teuluoedd ar draws y DU a fydd eisoes wedi treulio oriau lawer yn ymchwilio ac yn pwyso a mesur yr opsiynau ar gyfer y brifysgol cyn penderfynu ar y dewis gorau ar eu cyfer. Credwn yn gryf, os yw myfyriwr wedi gwneud y penderfyniad i wneud Met Caerdydd yn gartref iddynt, na ddylid ei orfodi i newid cyfeiriad ar gam mor hwyr yn y broses ymgeisio. 

Rydym wedi ymrwymo i fyw ein gwerthoedd a dangos ein cefnogaeth i bob aelod o deulu Met Caerdydd. Hoffem sicrhau pob ymgeisydd y byddwn, os penderfynwch astudio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cefnogi eich dewis ac y byddwn wrth ein bodd yn eich croesawu i Gaerdydd ym mis Medi.