Hafan>Newyddion>Mae ymchwilwyr ym Met Caerdydd yn ymuno â dau ddiffoddwr tân benywaidd i astudio effaith gweithgareddau dygnwch eithafol

Mae ymchwilwyr ym Met Caerdydd yn ymuno â dau ddiffoddwr tân benywaidd i astudio effaith gweithgareddau dygnwch eithafol

​Newyddion | 22 Tachwedd ​​2023

​Mae ymchwilwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithio gyda dau ddiffoddwr tân benywaidd o Gymru wrth iddynt gychwyn ar daith sgïo i Begwn y De i gasglu data pwysig ar iechyd corfforol menywod mewn amgylcheddau dygnwch eithafol.

Dr Issam Damaj, Rebecca Rowe, Georgina Gilbert, a Dr Fiona Carroll


Bydd Georgina Gilbert, 49 o Rosan ar Wy a Rebecca Rowe, 42 o’r Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, yn sgïo 702 milltir (1130 cilomedr) o arfordir Antarctica i Begwn y De.

Bydd George a Bex, yn sgïo 10 awr bob dydd am 45 diwrnod, dim ond yn stopio am angenrheidiau beunyddiol fel bwyta a chysgu. Wrth sgïo byddant yn tynnu slediau cyflenwi sy’n pwyso dros 85kg, mewn tymheredd mor isel â -50 °C, mewn gwyntoedd posibl o dros 60 milltir yr awr.



Mae’r ymchwil yn cael ei arwain gan Dr Fiona Carroll a Dr Issam Damaj o Ysgol Dechnolegau Caerdydd ynghyd â thîm o arbenigwyr o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd ym Met Caerdydd. Dywedodd Dr Fiona Carroll: “Dim ond ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym eisoes o sut mae’r corff benywaidd yn ymateb ac yn perfformio mewn amgylcheddau dygnwch eithafol. Y gobaith yw y bydd yr alldaith anhygoel hon yn llenwi’r bwlch ac yn darparu data allweddol i’n helpu i ddeall mwy am ba mor bell y gellir gwthio’r corff benywaidd a sut mae’n ymateb mewn amodau eithafol.”

Mae Dr Carroll a Bex ill dau yn nofio gyda Chlwb Nofio Pen-y-bont ar Ogwr. Wrth sgwrsio un bore yn y Clwb, cafodd Dr Carroll ei swyno i ddysgu am gynlluniau Bex a George i deithio i Begwn y De, a hyd yn oed yn fwy o syndod o glywed mai ychydig iawn o ymchwil sydd ar berfformiad menywod mewn amodau mor eithafol. Y sgwrs hwn a heuodd yr hadau ar gyfer y prosiect ymchwil hwn.

 

Trwy gydol y daith, bydd Bex a George yn gwisgo nifer o fonitorau digidol, gan gynnwys tracwyr mislif, monitorau ffitrwydd a oriawr clyfar antur. Bydd y data a gesglir yn rhoi cipolwg ar ymatebion corfforol a pherfformiad athletwyr dygnwch benywaidd aeddfed sy’n llywio amgylcheddau dygnwch heriol. Y nod yn y pen draw yw lledaenu’r canfyddiadau yn y gobaith y bydd hyn yn arwain at archwilio ymhellach yn y maes hwn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn ogystal â chefnogi unigolion fel George a Bex, ac ysbrydoli merched a menywod di-rif eraill a fydd yn dilyn ôl eu traed.

Mae George a Bex wedi arfer wynebu’r galw corfforol o ddydd i ddydd yn eu swyddi fel diffoddwyr tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r pâr wrth eu bodd yn cystadlu ar lefel uchel ac mae ganddynt brofiad helaeth mewn chwaraeon cystadleuol elitaidd ac amgylcheddau eithafol. Mae George wedi cerdded mynyddoedd gan gynnwys Elbrus a Kilimanjaro, tra bod Bex wedi rhwyfo dros Brydain Fawr ac wedi cystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd a Chwe Gwlad Cymru.

Ond mae’r ddau wedi dweud bod yr hyfforddiant ar gyfer alldaith yr Antarctig wedi bod yn her ar lefel hollol newydd.

Dywedodd Bex: “Rydyn ni’n mynd i’r lle oeraf, mwyaf gwyntog, sychaf, mwyaf gelyniaethus ar y blaned, a ni yw’r unig dîm benywaidd sy’n ei wneud eleni.”

 

Ychwanegodd George: “Yr unig gyswllt y byddwn ni’n ei gael gyda’r byd y tu allan yw gyda ffôn lloeren, felly rydyn ni wir yn peryglu ein bywydau i yrru ein pwynt adref, y gall merched a menywod herio’r stereoteip rhyw a dod o hyd i’w dewrder i’w gyflawni er gwaethaf rhwystrau cymdeithasol.”

Dilynwch daith George a Bex ar antarcticfireangels.co.uk​. Bydd rhaglen ddogfen ITV X yn cael ei darlledu ym mis Chwefror 2024.