Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn ennill Gwobr Addysg yng Ngwobrau Bywyd Caerdydd

Met Caerdydd yn ennill Gwobr Addysg yng Ngwobrau Bywyd Caerdydd

​Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn dathlu ar ôl ennill gwobr arall.

Cyhoeddwyd mai Met Caerdydd oedd enillydd y Wobr Addysg yng Ngwobrau Bywyd Caerdydd ddydd Iau, gan y dyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens.

Dywedodd y beirniaid, i dorf o fwy na 450 o bobl yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, : "Prifysgol hynod flaengar, a gododd i 11,500 o fyfyrwyr o dros 140 o wledydd ac sy'n meithrin entrepreneuriaeth. Hanes rhagorol ar gyfer busnesau newydd i raddedigion."

Mae Gwobrau Bywyd Caerdydd, sy'n cael ei ystyried fel un o'r gwobrau lleol fwyaf cystadleuol, yn uchafbwynt blynyddol o ran digwyddiad i'r gymuned fusnes yn ein dinas. Roedd Met Caerdydd ar y rhestr fer mewn dau gategori eleni, gan nodi cyflawniad mewn Addysg a'r Gymraeg.

Y digwyddiad ddydd Iau oedd y mwyaf yn hanes Bywyd Caerdydd, gyda'r nifer uchaf erioed o geisiadau ar draws 23 categori. Dechreuodd y noson gyda'r gwesteiwyr yn talu teyrnged i ymateb Caerdydd i'r rhyfel yn Wcráin, gan gynnwys ymrwymiad Met Caerdydd o £400,000 i fyfyrwyr ac academyddion sy'n ffoi rhag y rhyfel.

Y wobr yw'r diweddaraf mewn cyfres o lwyddiannau i Met Caerdydd ar lefel genedlaethol a lleol, ar ôl cael ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan Times Higher Education, Prifysgol y Flwyddyn Cymru 2021 gan y Times a Sunday Times ac yn y 5ed safle yn y DU yng Nghynghrair Gwyrdd People and Planet.