Hafan>Newyddion>Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn arddangos pŵer trawsnewidiol ymchwil prifysgolion Cymru

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn arddangos pŵer trawsnewidiol ymchwil prifysgolion Cymru

Newyddion | 15 Tachwedd 2023

​Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi datgelu adroddiad sy’n rhoi cipolwg ar yr ymchwil sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion Cymru a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar bobl, gan gynnwys ymchwil arloesol gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Comisiynodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru King’s College London i gynhyrchu ‘Effeithiau ymchwil prifysgolion Cymru’, sef dadansoddiad o 280 o astudiaethau achos effeithiau a gyflwynwyd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021. Mae’r dadansoddiad hwn yn taflu goleuni ar y ffyrdd niferus mae ymchwil prifysgolion Cymru yn cyfoethogi cymunedau lleol ac yn gwneud gwahaniaeth ar draws y byd.

Mae’r adroddiad yn datgelu ystod o ganfyddiadau, gan danlinellu dyfnder ac ehangder y cyfraniadau a wneir gan ymchwil prifysgolion Cymru. Roedd chwarter o effaith yr ymchwil o fudd i blant a phobl ifanc.

Mae cyfanswm o 25 o wahanol grwpiau o bobl wedi elwa o effaith ymchwil Cymru, o deuluoedd i ofalwyr, llunwyr polisi i’r henoed. Mae ffocws lleol yn amlwg gan fod 70% o’r ymchwil a adroddwyd wedi cael effaith uniongyrchol o fewn Cymru. Eto i gyd, ni ellir gwadu’r cyrhaeddiad byd eang, gyda dros 60% yn ymestyn yn rhyngwladol i wledydd fel Awstralia, Tsieina, Norwy, a Japan, sy’n pwysleisio arwyddocâd byd eang ac yn dangos cyrhaeddiad eang ein prifysgolion Cymreig.

Cafodd ymchwil arloesol Met Caerdydd i ofal dementia gwell ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae’r ymchwil wedi mynd ymlaen i wella ansawdd bywyd pobl â dementia datblygedig wedi dangos effaith gymdeithasol ddwys. Trwy greu a gwerthuso gwrthrychau a ddyluniwyd gyda chwarëusrwydd, creadigrwydd, a chyffyrddiad mewn golwg, fel yr HUG™ arloesol, mae’r adroddiad yn datgan bod ‘y tîm wedi cyfrannu at allu gweithredol a gwybyddol cynyddol mewn 87% o gleifion dementia sy’n cymryd rhan mewn treialon.’

Dywedodd yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil ac Arloesi) ym Met Caerdydd: “Rydym yn falch o fod yn cynhyrchu ymchwil ym Met Caerdydd sy’n cael effaith bellgyrhaeddol a’r gallu i drawsnewid bywydau, fel HUG™. Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i feithrin diwylliant ymchwil bywiog a chefnogi staff gyda’u dyheadau ymchwil, sy’n ganolog i’n hethos o addysgu a dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil.”

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ar ganfyddiadau’r adroddiad: “Mae’r dadansoddiad hwn yn tanlinellu rôl aruthrol prifysgolion Cymru o ran meithrin ymchwil ac arloesi ac ail lunio gwead cymdeithas. Nid yn unig y mae’n dangos ymrwymiad ac arbenigedd ein cymuned academaidd, ond mae hefyd yn adlewyrchu cred ddiysgog Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng ngrym trawsnewidiol gwybodaeth er budd Cymru a thu hwnt. Wrth i’r DU edrych ymlaen at gysylltiad llawn â rhaglen Horizon Europe, rydym yn obeithiol ynghylch y cyfleoedd cydweithredol cynyddol a’r potensial ar gyfer mwy fyth o gyfleoedd am ddatblygiad cymdeithasol yn y dyfodol.”