Hafan>Newyddion>Nod digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw cymryd camau breision o ran cynwysoldeb hyfforddi chwaraeon

Nod digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw cymryd camau breision o ran cynwysoldeb hyfforddi chwaraeon

Newyddion | 4 Mawrth 2024

Bydd hyfforddwyr chwaraeon y dyfodol a’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant yn cael eu hysbrydoli gan straeon am athletwyr, ymchwilwyr a hyfforddwyr benywaidd sydd wedi paratoi’r ffordd ar gyfer tirwedd chwaraeon fwy cynhwysol mewn digwyddiad a gynhelir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (Dydd Gwener 8fed Mawrth 2024).

Bydd Ysbrydoli Cynhwysiant, digwyddiad rhad ac am ddim ar gampws Cyncoed Met Caerdydd, yn ymchwilio i faterion cynwysoldeb, amrywiaeth a grymuso o fewn hyfforddi chwaraeon, gan ddod â menywod o bob rhan o chwaraeon at ei gilydd ar gyfer sgwrs sy’n procio’r meddwl.

Stef Collins, chwaraewr a hyfforddwr Pêl-fasged Prydain Fawr; Funmi Oduwaiye, para-athletwr saethiad a disgws Prydain Fawr; a Sarah Jones, enillydd medal efydd Olympaidd gyda Hoci Prydain Fawr, yw rhai o’r enwau sy’n ymuno â phanel Holi ac Ateb Tîm Cymru, a gynhelir gan Ria Burrage-Male, cyn Brif Swyddog Gweithredol a chwaraewr Hoci Cymru. Bydd y grŵp o fenywod yn trafod sut y gwnaethant dorri rhwystrau mewn chwaraeon a herio stereoteipiau ar draws y diwydiant.



Dywedodd Laura Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Fel Prifysgol, rydym yn cynhyrchu arweinwyr y dyfodol ym maes hyfforddi chwaraeon ac rydym am weld pob myfyriwr graddedig yn mynd ymlaen i ffynnu yn eu gyrfa. Mae hyfforddi chwaraeon yn parhau i fod yn ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu’n drwm gan ddynion ac mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn fel y gall pob unigolyn deimlo bod y proffesiwn yn gynhwysol. Nod y digwyddiad yw grymuso mynychwyr i ddysgu o brofiad athletwyr a hyfforddwyr llwyddiannus, i hyrwyddo cynhwysiant a pharhau i ymdrechu am newid yn y diwydiant.”

Mae’r digwyddiad am ddim ac yn agored i unrhyw un sy’n dilyn gyrfa mewn hyfforddi chwaraeon neu sy’n gweithio yn y diwydiant yn barod, a bydd yn cynnwys:

09:00-10:00

Cyflwyniad / Croeso

Sgwrs Hyfforddi – Rheoli argraff fel hyfforddwr benywaidd

10:00-11:00

Sesiynau torri allan yn cwmpasu EDI o fewn hyfforddi, addysgu hyfforddwyr benywaidd, a dysgu trwy iaith

11:00-11:45

Rhwydweithio a lluniaeth

12:00-13:00

Allyship

13:00-14:00

Panel Holi ac Ateb Tîm Cymru, dan lywyddiaeth Ria Burrage-Male

I archebu eich lle ar y digwyddiad ar ddydd Gwener 8fed Mawrth, ewch i: #InspireInclusion in Sports Coaching - International Women’s Day Tickets, Fri 8 Mar 2024 at 09:00 | Eventbrite