Hafan>Newyddion>Ysbrydolwyd gan Betty

Gwaith celf disgyblion yn cael ei arddangos yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd i nodi dadorchuddio cofeb Betty Campbell

Newyddion | 27 Medi 2021

Cardiff Metropolitan University

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi gwahodd disgyblion Ysgol Gynradd Mount Stuart, cyn-ysgol Betty Campbell, i arddangos eu gwaith celf fel rhan o arddangosfa arbennig i nodi dadorchuddio'r gofeb sydd wedi'i chysegru i Bennaeth croenddu cyntaf Cymru. 

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus yn 2019, mae dathliadau i nodi dadorchuddio cofeb gyntaf Cymru i Gymraes a enwyd yn cael eu cynnal ledled y ddinas, gan gynnwys arddangosfa arbennig ar hen gampws y coleg addysg lle cychwynnodd Betty ei gyrfa addysgu.

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Mount Stuart, lle bu Betty’n dysgu am bron i 30 mlynedd, wedi curadu arddangosfa newydd i nodi ei bywyd rhyfeddol, yn dilyn cyfres o ddosbarthiadau’n bwrw golwg dros ei bywyd addysgu a dinesig.  

Gan hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol y wlad trwy gydol ei hoes, fe heriodd Betty Campbell ei beirniaid trwy ddod yn rym aruthrol ym myd addysg a gwleidyddol Cymru. 

Yn enedigol o Butetown, cafodd Betty ei magu yn nociau Caerdydd, yr enwog Tiger Bay. Gan ennill ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd Lady Margaret i Ferched yng Nghaerdydd, fe wnaeth angerdd Betty am addysg arwain ati’n dod yn un o'r menywod cyntaf i gael ei derbyn i Goleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd bellach), cyn dod yn athrawes a Phennaeth du cyntaf Cymru - gan gychwyn cenhadaeth gydol oes i wreiddio treftadaeth amlddiwylliannol Cymru yn addysgu’r blynyddoedd cynnar.  

Wrth sôn am y dadorchuddio, dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Is-Ganghellor Met Caerdydd: “Mae dylanwad Betty Campbell i’w deimlo ar draws y sector addysg yma yng Nghymru ac o amgylch y DU. 

“Angerdd a chred mewn addysg yw’r hyn sy’n gyrru llawer ohonom i addysgu. I Betty, roedd chwalu’r rhwystrau hynny i fynd i mewn i’r proffesiwn addysgu yn dasg anoddach ar y pryd. Talodd ei phenderfyniad ar ei ganfed a daeth yn rym aruthrol ac yn eiriolwr dros bŵer addysg. Talodd ei phenderfyniad i ffwrdd a daeth yn rym aruthrol ac yn eiriolwr dros bŵer addysg i drawsnewid bywydau. 

“Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu ymuno â’r dathliadau fel hyn, gan rannu gwaith gan ddisgyblion o hen ysgol Betty lle mae ei phresenoldeb yn parhau yn y gwaddol a erys ar ei hôl.”

Dywedodd Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: “Roedd Betty Campbell yn gawr yn y gymuned addysg, ac mae’n parhau felly. Profodd ei amheuwyr yn anghywir, ac mae ei phenderfyniad yn parhau i fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i athrawon, disgyblion, a'r cwricwlwm heddiw.

“Roedd ei gwaith i ddod â straeon amlddiwylliannol y gymuned, a’i bywyd ei hun, yn flaenllaw yn nysg yr ystafell ddosbarth yn chwyldroadol, ac mewn sawl ffordd, mae hynny wedi gosod sylfaen ar gyfer y gwaith a wneir heddiw i annog mwy o amrywiaeth ar draws y sector. 

“Mae golau Betty’n disgleirio, a bydded i’w delfrydau barhau i ysbrydoli am amser hir.”

Bydd yr arddangosfa’n rhedeg rhwng 27 Medi - 01 Hydref yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.