Hafan>Newyddion>Anrhydeddu tiwtor ysbrydoledig am drawsnewid bywydau cannoedd o fyfyrwyr

Anrhydeddu tiwtor ysbrydoledig am drawsnewid bywydau cannoedd o fyfyrwyr

Newyddion | 8 Gorffennaf 2021

 


Mae uwch ddarlithydd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ennill gwobr genedlaethol o fri am ei gwaith arloesol yn helpu dysgwyr o dan anfantais ledled de Cymru.

Mae Dr Clare Elmi-Glennan o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd wedi ennill y Wobr Tiwtor yng ngwobrau Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Fe wnaeth Dr Elmi-Glennan, sy’n gweithio fel uwch ddarlithydd yn yr adran Seicoleg Gymhwysol, ddechrau gweithio gyda thîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd yn fuan wedi cwblhau ei Doethuriaeth. Ysgrifennodd fodiwl Lefel 3 achrededig cyntaf y Brifysgol i’w ddarparu yn y gymuned - y mae ei gwblhau’n llwyddiannus yn darparu llwybr i’r Radd Sylfaen mewn Gwyddor Gymdeithasol yn y Brifysgol.

Mae gwaith Dr Elmi-Glennan sy’n torri tir newydd wedi paratoi’r ffordd ar gyfer datblygu modiwlau pellach mewn meysydd pwnc eraill ar draws Met Caerdydd, gan ddarparu mwy o lwybrau mynediad i ddysgwyr o dan anfantais. Datblygwyd hyn ymhellach gyda’r rhaglen O’r Gymuned i’r Campws yn y Brifysgol a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Times Higher yn 2017.

Roedd llwybr Clare ei hun i addysg uwch yn annhraddodiadol. Ar ôl cofrestru i ddysgu mewn ysgol nos fel oedolyn, cafodd ei derbyn ar radd Astudiaethau Addysg a Seicoleg Met Caerdydd yn 37 oed. Ar ben hynny, enillodd y rhiant i bump o blant radd dosbarth cyntaf ag anrhydedd a chwblhaodd ei Doethuriaeth yn 2013.

Mae Clare hefyd wedi manteisio ar dechnolegau newydd i gynnal cymunedau dysgwyr trwy gydol y pandemig gan gyfrannu at fodiwl Cyflwyniad i Seicoleg ar gyfer cynllun prosiect Parhad Dysgu Llywodraeth Cymru. Helpwyd myfyrwyr Blwyddyn 13 a oedd yn methu bwrw ymlaen â’u dysgu oherwydd Covid-19 gan y fenter hon.

Gan sôn am yr anrhydedd, dywedodd Jan Jones, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned, Ehangu Mynediad: "Mae Dr Clare Elmi-Gennan wedi chwarae rhan ganolog wrth alluogi datblygiad ein cynllun llwyddiannus O’r Gymuned i’r Campws ac rydyn ni’n falch iawn o’i gweld hi’n cael ei anrhydeddu yng ngwobrau Ysbrydoli! eleni.

"Cydnabyddir yn eang fod gan Clare ddull ardderchog sy’n ysgogi, annog ac arwain rhai o’r dysgwyr sydd o dan yr anfantais fwyaf, gan godi eu huchelgeisiau i ystyried addysg uwch fel opsiwn go iawn. Mae hi’n wirioneddol ysbrydoledig ac mae hi’n llawn haeddu gwobr Ysbrydoli! oherwydd mae hi wedi helpu i drawsnewid y llwybrau i Met Caerdydd ar gyfer cannoedd o fyfyrwyr dros y blynyddoedd."

Ychwanegodd Dr Clare Elmi-Gennan: "Mae’n anrhydedd i gael fy nghydnabod gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Jan Jones a Charlotte Arundel o’r tîm Ehangu Mynediad ym Met Caerdydd am eu cefnogaeth a’u hymroddiad.

"Mae’r holl ddysgwyr sy’n oedolion yr ydw i wedi eu dysgu yn y gymuned dros y blynyddoedd wir wedi gwneud argraff arnaf i ac rydw i wedi rhyfeddu at eu taith ddilynol trwy Met Caerdydd – mae eu cyflawniadau’n golygu cymaint imi. Rwy’n mawr obeithio y bydd y wobr hon yn ysbrydoli rhagor o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a dysgwyr annrhaddodiadol i gychwyn eu taith ddysgu mewn addysg uwch."

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, Dave Hagendyk:

"Fe gafodd ymrwymiad ac angerdd Clare tuag at ehangu mynediad a chefnogi dysgwyr difreintiedig i gael mynediad i addysg, yn ogystal â’i hymdrech i ddefnyddio technolegau newydd yn ystod y pandemig i’w myfyrwyr allu parhau a’u dysgu ‘cymuned i’r campws’ ar-lein argraff dda ar bob un o’r beirniaid.

"Mae’r gwaith iddi ei wneud i gefnogi dysgwyr, yn ogystal a’i siwrne dysgu ei hun, yn ysbrydoliaeth ac rydym yn falch o gael cydnabod ei chyfraniad gyda Gwobr Tiwtor Ysbrydoledig."