Hafan>Newyddion>Ymchwil Gwent yn “gam ymlaen” tuag at fynd i’r afael â hiliaeth yng Nghymru

Ymchwil Gwent yn “gam ymlaen” tuag at fynd i’r afael â hiliaeth yng Nghymru

Newyddion | 21 Chwefror 2024

Mae adroddiad pwerus sy’n edrych ar hiliaeth mewn ysgolion wedi’i gyhoeddi, a fydd yn newid y ffordd y mae awdurdodau lleol yn mynd i’r afael â gwrth-hiliaeth yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Comisiynwyd Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Met Caerdydd gan is-grŵp hil (addysg) Bwrdd Diogelu Plant De-ddwyrain Cymru, i gynnal astudiaeth fach ond arwyddocaol yn ysgolion Gwent.

Roedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau arfer gorau mewn perthynas ag adrodd am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion. Fodd bynnag, teimlid ei bod yn annhebygol bod nifer yr adroddiadau’n adlewyrchu union niferoedd yr achosion a ddigwyddodd, ac nad oedd hynny’n rhoi darlun cywir o brofiadau plant a phobl ifanc.

Roedd yr is-grŵp hil (addysg), a sefydlwyd gan Fwrdd Diogelu Gwent yn 2022, eisiau darganfod pam nad yw disgyblion yn cofnodi digwyddiadau hiliol yn ddigonol.

Arweiniwyd yr ymchwil gan y prif ddarlithwyr Chantelle Haughton a Dr Susan Davis, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gan ddefnyddio amrywiaeth o brofiadau go iawn a phrofiadau proffesiynol drwy’r ymchwil, roedd y tîm ymchwil amrywiol hefyd yn cynnwys yr athrawon Leon Andrews, Batool Akmal, Gemma Maiorano a Dr John Fernandes.

Dywedodd Gareth Jenkins, cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Gwent: “Mae’r Bwrdd a’r pum cyngor yn hynod ddiolchgar i Mrs Haughton, Dr Davis a’r tîm am eu hadroddiad sy’n ddadlennol ac yn procio’r meddwl.

“Roedd yr adroddiad yn cadarnhau ein pryderon nad yw digwyddiadau’n cael eu cofnodi’n ddigonol ac, yn bwysicach fyth, rai o’r rhesymau pam mae hyn yn digwydd. Roedd y farn a fynegwyd gan y plant a’r bobl ifanc, a’r staff, weithiau’n peri gofid mawr ac yn gwneud i rywun sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa. Nid gweld bai ar bobl yw’r bwriad, ond yn hytrach dysgu sut y gellir gwella pethau i sicrhau bod ein hysgolion yn ddiogel ac yn gynhwysol i bawb.

“Mae pob un o’r pum cyngor wedi croesawu’r adroddiad ac maen nhw’n unedig yn yr uchelgais hwnnw. Bydd yr adroddiad hwn yn eu helpu i sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn rhan annatod o ethos ysgolion a phopeth maen nhw’n ei wneud.”

Dywedodd Chantelle Haughton: “Wrth i Fwrdd Diogelu Gwent gymryd y cam cadarnhaol, penderfynol hwn i gomisiynu darn penodol o ymchwil ar glywed a gweithredu, mae’n gam hollbwysig ymlaen i dynnu sylw at wersi sy’n berthnasol i Gymru gyfan.

“Mae canfyddiadau ein hymchwil yn dorcalonnus, ac yn anffodus, nid yw’n syndod. Mae angen mynd ati’n fwy rhagweithiol i weithredu hiliaeth a digwyddiadau hiliol mewn awdurdodau lleol ac ysgolion ledled Cymru. Mae angen dysgu proffesiynol dwfn a pharhaus drwy ymgysylltu â chymorth Dysgu Proffesiynol ym maes Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth, canllawiau newydd, gwaith data penodol ac ymchwil barhaus.

“Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at faterion hollbwysig sydd hefyd yn gyffredin mewn ardaloedd eraill ar draws ein gwlad. Siaradodd cenedlaethau’r dyfodol yn ddewr â’n tîm ymchwil, maent am i addysgwyr a llunwyr polisïau eu cymryd o ddifrif, gwrando ar eu profiadau, ac maent am weld gwelliant o ran cefnogaeth, gwybodaeth, cyfathrebu a chosb.

“Mae’r cyfranogwyr dewr yn yr ymchwil eisiau i’w gonestrwydd, eu profiad, eu syniadau a’u lleisiau chwarae rhan flaenllaw yn y newid sylweddol. Maen nhw eisiau dechrau teimlo bod rhywbeth yn cael ei wneud. Gadewch i ni glywed, gofalu a chreu gwaddol newydd gyda’n gilydd.”

Dyma rai o ganfyddiadau’r adroddiad:

  • Mae hiliaeth yn gyffredin ym mywydau’r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil, yn eu hysgolion a’u cymunedau.
  • Mae angen rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â “thynnu coes” (banter).
  • Mae rhywfaint o enghreifftiau da a chadarnhaol o bobl yn meddwl ac yn gweithredu’n wrth-hiliol yn yr ardal.
  • Rhaid i ysgolion siarad â dysgwyr am eu profiadau a rhoi systemau ar waith i’w cefnogi.
  • Rhaid rhoi dull gweithredu safonol ar waith ar gyfer cofnodi digwyddiadau a delio â nhw, yn ogystal â phroses annibynnol ar gyfer delio â digwyddiadau sy’n cael eu cofnodi, er mwyn i’r bobl sy’n gwneud yr honiad fod yn hyderus y bydd yn cael ei drin yn gyfrinachol, a diduedd ac y bydd yn cael ei ddatrys.

Mae un o’r argymhellion a wnaed gan y tîm eisoes wedi cael ei ddatblygu. Bydd grŵp llywio rhanbarthol Dysgu Proffesiynol ym maes Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth, yn cael ei sefydlu ar gyfer y pum cyngor a Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru.

Bydd hyn yn datblygu dull mwy cyson o weithio yng nghyswllt gwrth-hiliaeth yng Nghymru ac yn ystyried y ffordd orau o gefnogi ysgolion yn eu dysgu proffesiynol i staff a llywodraethwyr. Bydd hyn hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm o ran amrywiaeth ac atal hiliaeth.

Bydd pob cyngor yn datblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar yr argymhellion ac yn gyfrifol am fonitro cynnydd.

Darllenwch yr adroddiad llawn.