Hafan>Newyddion>Gallu nofio plant Caerdydd ar ei isaf ledled Cymru gyfan

Gallu nofio plant Caerdydd ar ei isaf ledled Cymru gyfan, wrth i fenter newydd gael ei ffurfio i fynd i’r afael â rhwystrau i gyfranogiad

Newyddion | 5 Mawrth 2024

Dim ond 16% o blant Caerdydd sy’n gallu nofio, y ffigurau isaf ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, yn ôl y data diweddaraf a gasglwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Nofio Cymru.

Asesir lefelau gallu nofio yn erbyn fframwaith Nofio Cymru, safonau gallu nofio a diogelwch dŵr. Mae ffigurau Caerdydd yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru o 41%.

Yn ogystal, mae gan Gaerdydd un o’r lefelau cyfranogiad isaf gwersi nofio mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru gyfan. Dim ond 57% o ysgolion cynradd Caerdydd yn y flwyddyn academaidd 2022/23 anfonodd ddisgyblion i wersi nofio.

Ledled Cymru, mae’r data’n dangos bod dros hanner y plant a gymerodd ran mewn gweithgareddau nofio yn dangos galluoedd anniogel yn y dŵr. Dim ond 41% o blant ym Mlynyddoedd 3-6 (7-11 oed) a fynychodd Nofio Ysgol yn 2022/23 yng Nghymru sy’n gallu nofio 25 metr heb gymorth, fel yr aseswyd gan Gasgliad Data Nofio a Diogelwch Dŵr Ysgolion.

Mae nofio yn cael ei gydnabod yn eang fel sgil bywyd pwysig, ond mae data gan Met Caerdydd a Nofio Cymru yn dangos bod llawer o blant ysgol ledled Caerdydd yn colli allan oherwydd fforddiadwyedd, gyda chost gyfartalog gwers 30 munud yn £7.66 ar gyfer 2023/24, yn uwch nag erioed yng Nghymru.

Mewn ymateb i’r ffigurau, mae grŵp o sefydliadau wedi dod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r ffigurau cyfranogiad nofio isel yng Nghaerdydd, gan gynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Chwaraeon Met Caerdydd, Nofio Cymru, Cymdeithas y Plu, Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GLL, Legacy Leisure, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd a’r Urdd. Nod y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud nofio mewn ysgolion ac addysg diogelwch dŵr yn arfer safonol yn ysgolion Caerdydd.

Mae’r grŵp yn awgrymu mai’r prif ddull o sicrhau bod pob plentyn yn caffael sgiliau nofio hanfodol yw trwy weithredu Gwersi Nofio Ysgolion blynyddol ym mhob ysgol.

Dywedodd Ryan David, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Dŵr yn Chwaraeon Met Caerdydd: “Mae’r ffigurau o bob rhan o Gaerdydd yn peri pryder a gallai olygu bod llawer o blant ar draws y ddinas mewn perygl o beidio â dysgu sgil bwysig sy’n achub bywyd. Mae llawer o deuluoedd yn dibynnu ar wersi nofio ysgol oherwydd problemau fforddiadwyedd a rhwystrau eraill fel cludiant.

“Bydd ffurfio’r grŵp o sefydliadau allweddol yn caniatáu i ni archwilio pa rwystrau i gyfranogiad sydd ar waith o ran ysgolion yn cymryd rhan mewn gwersi a gobeithio y bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o ba newidiadau sydd angen eu gwneud i wella’r ffigurau hirdymor, felly nid yw’r genhedlaeth nesaf yn colli allan ar y sgil hwn.

“Rydym yn gweithio tuag at strategaeth gynhwysfawr i gynnwys pob ysgol yng Nghaerdydd mewn gwersi nofio ysgol fforddiadwy, gyda ffocws ar safoni modelau darparu a sicrhau profiad dysgu cyson i bawb. Bydd hyn yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn gallu dod yn hyderus ac yn gymwys yn y dŵr ac o’i gwmpas.”

Mae Nofio Cymru wedi argymell bod ysgolion a darparwyr yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu nofio a datblygu sgiliau cymhwysedd dŵr, nid yn unig er budd iechyd a lles, ond yn benodol ar gyfer y potensial i atal boddi ac achub bywydau.

Dywedodd Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol Nofio Cymru, Hanna Guise: “Prin fod addysg Nofio Ysgolion a Diogelwch Dŵr yn dal ei phen uwchben y dŵr; mae gallu nofio plant Cymru ar ei lefel isaf erioed. I fynd i’r afael â hyn, mae Nofio Cymru, mewn cydweithrediad â’n partneriaid cenedlaethol, yn dymuno tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu nofio a datblygu sgiliau cymhwysedd dŵr. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i atal achosion o foddi, achub bywydau a gwneud cyfraniad cadarnhaol at les plant yng Nghymru.

“Mae profiadau yn yr ysgol yn llywio ein perthynas yn y dyfodol â nofio, dŵr, a’r holl weithgareddau dyfrol a gallent gael effaith a dylanwad parhaol ar ymddygiad a phenderfyniadau plentyn yn y dŵr ac o’i amgylch. Mae cydweithredu rhwng yr holl sefydliadau rhanddeiliaid yn hanfodol i sicrhau bod holl blant Caerdydd yn gallu cael hwyl a bod yn ddiogel yn y dŵr ac o’i gwmpas.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag aquatics@cardiffmet.ac.uk.