Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn cryfhau ei chysylltiadau byd-eang â Phacistan

Met Caerdydd yn cryfhau ei chysylltiadau byd-eang â Phacistan

Newyddion | 6 Chwefror 2023

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi llofnodi cytundebau gyda phedwar sefydliad o bwys ym Mhacistan a fydd yn cynnydu’r cydweithio mewn nifer o feysydd pwysig.

Mae’r cytundebau rhwng Met Caerdydd a’r sefydliadau canlynol:

  • Prifysgol Genedlaethol y Gwyddorau a Thechnoleg (NUST)
    Y sefydliad gorau ym Mhacistan a 74ain yn Asia, yn ôl Rankings QS World University.
  • Prifysgol Gwyddorau Rheoli Lahore (LUMS)
    Wedi’i rhestru yn y band 251 – 300 yn y Times Higher Education (THE) Asia University Rankings a’r band 601 – 650 yn y QS World University Rankings.
  • Prifysgol Islamabad COMSATS (CUI)
    Wedi’i rhestru yn y THE World University Rankings (band 801 — 1,000) gyda Busnes ac Economeg yn y band 251 — 300. 130ain yn Asia yn ôl y QS World University Rankings.
  • Sefydliad Ffasiwn a Dylunio Pacistan
    Yr unig sefydliad ym Mhacistan i fod yn rhan o Gymdeithas Cumulus ac i fod yn gysylltiedig â’r Ecole de la Chambre, Paris. Mae gan y sefydliad gyfradd cyflogaeth o 100 y cant.

Bydd y cytundeb yn archwilio’r meysydd canlynol:

  • Cydweithio ymchwil yn arwain at brosiectau a chyhoeddiadau ar y cyd.
  • Cyfnewidiadau staff i alluogi cydweithrediad mewn addysgu, gweithdai a chynadleddau, gwella ymchwil a mynediad i gyfleusterau.
  • Cyfnewidiadau myfyrwyr i gefnogi twf y cymwyseddau rhyngddiwylliannol a’r sgiliau meddal ymhlith poblogaeth myfyrwyr y ddwy ochr.

Mae’r cytundeb yn rhan o gyfarfod consortiwm ehangach rhwng y partneriaid ym mhrosiect Adeiladu Capasiti mewn AU Erasmus+ Met Caerdydd a Pacistan, B-International.

Nod y prosiect B-International yw rhoi fframwaith i staff prifysgolion ym Mhacistan i weithredu strategaethau rhyngwladol a darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i staff weithredu gweithgareddau rhyngwladol. Fel rhan o’r consortiwm, ymwelodd 25 o gydweithwyr o’n partneriaid ym Mhacistan ac Ewrop, gan gynnwys Prifysgol Salamanca, Prifysgol Bologna, Ecole Centrale de Nantes â’r Brifysgol.

Yn ystod yr ymweliad, roedd nifer o siaradwyr allanol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol Taith, Cymru, Susana Galvan.

Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison:

“Mae Met Caerdydd yn falch iawn o arwyddo cyfres o femoranda cyd-ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Genedlaethol y Gwyddorau a Thechnoleg, Prifysgol Gwyddorau Rheoli Lahore, Prifysgol Islamabad COMSATS a Sefydliad Ffasiwn a Dylunio Pacistan - mae'r holl sefydliadau partner hyn ar flaen y gad ym maes addysg uwch.

“Rydym yn edrych ymlaen at berthynas gref a gwerth chweil gyda phob sefydliad, lle bydd staff a myfyrwyr yma ac ym Mhacistan yn elwa o gydweithio traws-ddiwylliannol a fydd yn arwain at fwy o ymchwil fydd yn cael effaith fyd-eang. Mae'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'r sefydliadau partner hyn hefyd yn sicr o'n helpu i barhau i ddatblygu myfyrwyr a staff sy'n ddinasyddion byd-eang.”

Dywedodd Dirprwy Reithor Academyddion Prifysgol Genedlaethol y Gwyddorau a Thechnoleg (NUST), Dr Osman Hasan: “Yma yn NUST, rydym yn ystyried y partneriaethau cydweithredol gyda sefydliadau rhagoriaeth academaidd eraill ledled yn anghenraid.

“Mae mor galonogol gweld bod cynllun strategol 2030 Met Caerdydd hefyd yn adleisio’r un gwerthoedd ar les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a’r brwdfrydedd dros gydweithredu rhyngwladol. Mae’r cytundeb yn gosod sylfaen ar gyfer cydweithio fydd yn codi safonau addysg, ymchwil ac arloesedd yn y ddau sefydliad.”

Dywedodd rheithor Islamabad Prifysgol COMSATS (CUI), yr Athro Muhammad T Afzal: “Mae angen i ni, fel arweinwyr addysgol, baratoi a phartneru er mwyn trawsnewid cymdeithasau yn yr oes sy’n hollol wahanol i’r gorffennol. Mae Prifysgol Islamabad COMSATS wedi ymrwymo i ymestyn ein perthynas â Met Caerdydd a phrifysgolion eraill tuag at bartneriaeth gynaliadwy i ymgymryd â heriau byd-eang ar y cyd ac mae’r prosiect B-International yn enghraifft wych o hyn.”

Dywedodd yr Is-Ganghellor Prifysgol Gwyddorau Rheoli Lahore (LUMS), Dr Arshad Ahmad: “Wrth siarad ag uwch dimau arwain Met Caerdydd ar draws yr ysgolion a’r Academïau Byd-eang, mae bron yn hudolus gweld pa mor berffaith yw ein strategaethau wrth olrhain ein cyfeiriad ai’r dyfodol.

“Mae’r bartneriaeth unigryw hon hefyd wedi creu ymdeimlad o berchnogaeth, cymrodoriaeth a chyfeillgarwch – wrth i ni ymdrechu i wneud y byd yn lle gwell.”

Dywedodd Is-Ganghellor Sefydliad Ffasiwn a Dylunio Pacistan (PIFD), yr Athro Hina Tayyaba Khalil: “Rwy’n falch iawn o arwyddo’r Datganiad o Gyd-ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd; bydd hyn yn cryfhau’r cysylltiadau cynnes sydd gennym yn barod ac y bydd y ddau sefydliad yn elwa ar y cyd. Byddai hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol tuag at feithrin gallu a symudedd.

“Mae’r rhaglen B-International wedi bod yn hynod fuddiol i bawb dan sylw. Ers ei sefydlu, roedd y B-International yn wynebu llawer o heriau trawsffiniol, diwylliannau a threfniadaeth. Cafodd ei rwystro gan bandemig Covid ond gyda phenderfyniad go iawn, fe wnaeth oresgyn yr anawsterau hyn. Mae ein presenoldeb yma yn dystiolaeth o’i weithrediad a’i lwyddiant.”