Newyddion | 25 Tachwedd 2021
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn y teitl mawreddog Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education.
Bellach yn eu 17eg flwyddyn, un o uchafbwyntiau'r calendr academaidd yw gwobrau'r Times Higher Education ac maent yn ddathliad o'r gorau oll yn sector Addysg Uwch y DU ac Iwerddon.
Mae'r dyfarniad yn cydnabod cyflawniadau Met Caerdydd yn ystod y flwyddyn academaidd 2019/20 a'r ffyrdd y mae'r Brifysgol wedi sefydlu ei hun fel prifysgol flaengar sy'n cael ei gyrru gan werthoedd ac sydd â phrofiad myfyrwyr a diwylliant staff rhagorol ac ymchwil ac arloesi effeithiol. Amlygwyd yr arweinyddiaeth dosturiol a'r dull rhagweithiol o reoli effaith pandemig y Coronafeirws hefyd fel nodweddion o berfformiad rhagorol Met Caerdydd. Tystir i lwyddiant diweddar y Brifysgol gan hanes a llwybr o dwf, arallgyfeirio a gwelliant, â chefnogaeth cyllid cynaliadwy, gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru'n ystyried Met Caerdydd yn brifysgol fwyaf cynaliadwy'n ariannol Cymru yn 2020.
Wrth sôn am y cyflawniad eithriadol hwn, dywedodd yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: "Mae cymuned gyfan Met Caerdydd yn hynod falch o fod wedi ennill yr hyn a ystyrir yn gyffredin yn un o'r gwobrau mwyaf arwyddocaol yn sector Addysg Uwch y DU.
"Mae'r wobr hon yn cydnabod ac yn gwobrwyo cymeriad ein prifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd, a'r gwelliannau sylweddol ym mhob maes perfformiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Mae ennill y wobr genedlaethol hon wedi enwogi Met Caerdydd fel un o brifysgolion safon uchel y DU ac mae'n adeiladu ar ein llwyddiant diweddar mewn prif dablau cynghrair a dyfarniad teitl Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
"Hoffwn ddiolch i bob un aelod o staff am y rhan y maent wedi'u chwarae wrth greu prifysgol fyd-eang gydnerth, uchelgeisiol ac uchel ei chyflawniad."
Ychwanegodd John Taylor, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr: "Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol sy'n dilyn ôl troed nifer o lwyddiannau nodedig eleni.
"Hoffwn adleisio'r Is-Ganghellor drwy ddiolch i'r holl aelodau staff am eu hymroddiad parhaus ac, wrth gwrs, i'r myfyrwyr y mae eu hymrwymiad i ddysgu wedi aros yn gyson drwy gydol yr adegau heriol hyn."
O dan arweiniad yr Athro Cara Aitchison, mae'r Brifysgol wedi gweithio tuag at saith blaenoriaeth fentrus a nodwyd mewn cynllun strategol yn 2016/17 ac a adnewyddwyd yn 2019/20 mewn ymateb i'r pandemig.
Mae'r blaenoriaethau hyn wedi canolbwyntio ar fynd i'r afael â galw myfyrwyr ac anghenion y byd diwydiant drwy sefydlu Ysgol Dechnolegau Caerdydd mewn partneriaeth â busnesau i gefnogi'r nifer cynyddol o gwmnïau digidol a thechnoleg sy'n clystyru ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn 2020, lansiodd y Brifysgol hefyd dair Academi Fyd-eang i ddatblygu ymchwil ac addysg ôl-raddedig ryngddisgyblaethol, ryngwladol ac effeithiol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf hirsefydlog sy'n effeithio arnom yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r Academïau Byd-eang ar gyfer Iechyd a Pherfformiad Dynol; Gwyddor Bwyd, Diogelwch a Diogelu; a Dylunio sy'n Canolbwyntio ar Bobl yn dwyn cryfderau mewn addysg, ymchwil ac arloesi ynghyd i gyflwyno gwelliannau i'r economi, yr amgylchedd ac iechyd a lles unigol a chymdeithasol.
Mae'r wobr hefyd yn cydnabod y ffaith fod boddhad cyffredinol myfyrwyr wedi gwella o dri y cant yn is na'r cyfartaledd yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2015/16 i ddau y cant yn uwch na'r cyfartaledd yn 2019/20. Â myfyrwyr yn elwa ar 'EDGE' Met Caerdydd i'r cwricwla, sy'n canolbwyntio ar sgiliau a phrofiadau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd, cyrhaeddodd y Brifysgol y 40 uchaf yn 2019/20 hefyd.
Yn ogystal â gwella profiad a chanlyniadau myfyrwyr, mae Met Caerdydd wedi cyflwyno newid diwylliannol drwy flaenoriaethu iechyd, lles, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Amlygir hyn gan ganlyniadau arolwg staff Capita 2020 a ddangosodd fod 96 y cant o'r staff yn cytuno bod Met Caerdydd yn lle da i weithio ynddi — yn erbyn cyfartaledd sector o 87 y cant.