Hafan>Newyddion>Met Caerdydd yn ehangu ei rôl ym mhartneriaethau doethurol ESRC

Met Caerdydd yn ehangu ei rôl ym mhartneriaethau doethurol ESRC

​Newyddion | 8 Tachwedd 2023

​Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) wedi ennill cais cystadleuol galwad agored ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol newydd (ESRC), a bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwarae rhan gynyddol ynddi.

Bydd Met Caerdydd yn parhau i fod yn rhan o’r llwybr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn ogystal â dau lwybr newydd – Addysg a Seicoleg.

Mae’r YGGCC yn ddilyniant i Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC blaenorol a fu’n hynod lwyddiannus acyn gweld buddsoddiad o £40m mewn ymchwil doethurol yng Nghymru, gyda £18.5m gan yr ESRC, £1.5 miliwn gan bartneriaid anacademaidd, a chefnogaeth yr holl SAU sy’n cymryd rhan.

Gyda chymorth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, bydd y bartneriaeth yn darparu hyd at 360 o ysgoloriaethau ymchwil ar draws pum carfan, gyda llwyfan hyfforddi a fydd yn creu cymuned ymchwil ôl-raddedig yn y gwyddorau cymdeithasol Cymru gyfan.

Dywedodd Yr Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor Met Caerdydd (Ymchwil ac Arloesi): “Mae Met Caerdydd yn falch iawn o fod yn bartner yn Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru, partneriaeth newydd fawr a beiddgar a adeiladwyd ar hanes llwyddiannus iawn Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC lle buom hefyd yn bartner iddi.

“Mae ein hymrwymiad i YGGCC yn dystiolaeth bellach o’n hymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol sydd i’w weld yns ein canlyniadau REF2021 a bydd hyn yn ein helpu i barhau i ddarparu profiad gradd ymchwil wirioneddol eithriadol, ac i adeiladu ar ein perfformiad rhagorol yn arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig y DU (PRES).”