Hafan>Newyddion>Met Caerdydd ac S4C yn lansio bwrsariaeth newydd i gefnogi talent darlledu Cymru

Met Caerdydd ac S4C yn lansio bwrsariaeth newydd i gefnogi talent darlledu Cymru

​Newyddion | 3 Mai 2022

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac S4C wedi lansio bwrsari newydd i gefnogi datblygiad talent darlledu Cymru yn y dyfodol, yn y gobaith o ddenu wynebau newydd i ymuno â'r sector cyfryngau yng Nghymru.

Bydd Bwrsariaeth Chwaraeon S4C yn cefnogi un myfyriwr o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig i astudio gradd meistr Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cefnogir y fwrsariaeth gan gwmnïau cynhyrchu Rondo a Media Atom.

Dywedodd Jason Mohammad a fydd yn gweithio mewn partneriaeth ag S4C ar gyfer y fwrsariaeth chwaraeon gyda'i bartner busnes Nathan Blake: "Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gydag S4C ar y fwrsariaeth hanesyddol hon. Mae hwn yn foment fawr iawn i'n cwmni newydd Jams & Mr B Productions.

"Rydym wedi ymrwymo i helpu darlledwyr i greu gweithlu amrywiol a chynyddu amrywiaeth o ran gwneud rhaglenni ar y sgrin a thu ôl i'r camera.

"Mae S4C wedi bod yn wych yn gweithio gyda ni ar ein huchelgais i helpu i newid bywydau pobl ifanc drwy roi cyfle unigryw iddynt lwyddo ym maes darlledu yng Nghymru."

Ychwanegodd Nathan Blake: "Mae'r cynllun Bwrsariaeth a gynigir gan S4C, partneriaid a'n cwmni cynhyrchu Jams & Mr B ein hunain yn cynnig cyfle sy'n newid bywydau.

"Mae ei greu yn fan cychwyn a fydd yn arwain at gyfleoedd pellach yn y dyfodol. Credwn y bydd y gronfa addysg ychwanegol hon yn helpu i adeiladu a chreu cydraddoldeb ac amrywiaeth parhaol yn y diwydiant dros y blynyddoedd a'r degawdau nesaf.

"Yn unigol gallwn newid bywydau ond gyda'n gilydd gallwn newid y gêm am byth. "
Dywedodd Is-Ganghellor Met Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: "Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth ag S4C, Rondo a Media Atoms, a gweithio gyda Jams & Mr B Productions, i gynnig y fwrsariaeth hon.

"Gyda'n gilydd rydym am ddileu'r rhwystrau i fynediad i fyfyrwyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol a allai fel arall deimlo nad yw gyrfa yn y cyfryngau ar eu cyfer.

"Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac yn rhoi cyfle i bawb. Rydym am ddenu'r ymgeiswyr gorau o bob cefndir, helpu i chwalu rhwystrau a sicrhau eu bod yn mynd mor bell ag y gall eu doniau eu cymryd."  

Dywedodd Joe Towns, Cyfarwyddwr Rhaglen, MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd:

"Mae hwn yn brosiect rydym wedi bod yn gweithio arno ers peth amser felly rydym wrth ein bodd ei fod yn digwydd. Gyda chymorth S4C a rhai o gwmnïau teledu chwaraeon mwyaf blaenllaw Cymru, Rondo a Media Atom, rydym yn ymdrechu i wella cynrychiolaeth ar draws allbwn a gweithluoedd darlledu chwaraeon Cymraeg, ar y sgrin ac wrth gynhyrchu. Mae'n her, ond mae sicrhau mwy o amrywiaeth yn ein diwydiant yma yng Nghymru mor bwysig ac, os yw'n llwyddiannus, gallai'r fwrsariaeth hon newid y gêm yn gyfan gwbl.

"Mae'r newyddion yn adeiladu ar ein cysylltiadau sefydledig ag S4C, wrth i nifer o'n myfyrwyr yn y gorffennol a'r presennol – Sioned Rowlands, Gabriella Jukes, Gethin Stedman, Dafydd Duggan, Gruff Mckee a Brandon Richards i gyd fod yn gweithio ar raglenni chwaraeon S4C eleni fel cyflwynwyr, cynhyrchwyr a sylwebyddion."

Dywedodd Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C: "Mae creu cyfleoedd fel cynnig bwrsariaethau yn gam bach ond pwysig tuag at gefnogi datblygiad talent S4C yn y dyfodol.

"Mae'n bleser gallu gweithio gyda sefydliadau addysgol, cwmnïau cynhyrchu ac arloeswyr fel Jams & Mr B i sicrhau bod talent o Gymru yn cael cymorth hanfodol ar ddechrau taith yrfa."

Am fwy o wybodaeth am fwrsariaeth Chwaraeon S4C: https://www.s4c.cymru/cy/chwaraeon/page/49841/bwrsariaeth/