Hafan>Newyddion>Barbara Wilding CBE, QPM yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd

Barbara Wilding CBE, QPM yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd

Newyddion | 19 Gorffennaf 2022

Dyfarnwyd Barbara Wilding CBE, QPM Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Barbara Wilding yw cyn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, y fenyw gyntaf erioed i ddal y swydd, gan wasanaethu o 2004 tan 2009.

Ar adeg ei hymddeoliad, hi oedd swyddog heddlu benywaidd hiraf Prydain. Dechreuodd Barbara ei gyrfa yn 1967 fel cadet yn Heddlu Jersey ac fe'i penodwyd yn gwnstabl ym 1970.

Wrth siarad am y wobr yn ngraddio Dosbarth Met Caerdydd 2022 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dywedodd Barbara: "Mae’n fraint fawr ar ôl yr holl flynyddoedd yr ydw i wedi bod yn ymwneud â’r Brifysgol - wnes i fyth erioed feddwl y byddwn i’n sefyll yma’n derbyn yr anrhydedd hon felly mae hi wir yn fraint fawr. Mae’n hyfryd gwybod y byddaf ynghlwm wrth y Brifysgol am byth, ac y byddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd a gobeithio’n gallu cyfrannu eto mewn ffordd wahanol i’r hyn a wnes i yn y blynyddoedd cynt."

Y flwyddyn ganlynol, trosglwyddodd i'r Heddlu Metropolitan lle bu'n gwasanaethu fel ditectif, cyn dod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Caint ym 1994. Ym 1998, trosglwyddodd yn ôl i'r Heddlu Metropolitan fel Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol, gan wasanaethu fel Cyfarwyddwr Adnoddau Strategol a hefyd Gweithrediadau Arbenigol (sy'n arwain y Gyfarwyddiaeth Diogelwch ac Amddiffyn, gan gynnwys amddiffyn gweinidogion y llywodraeth ac aelodau o'r teulu brenhinol).

Yn 2015, tra'n gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd (yn ogystal ag Uchel Siryf Morgannwg Ganol), daeth Barbara hefyd yn Ganghellor, a daeth ei chyfnod yn y swydd i ben ym mis Tachwedd 2021 gyda Met Caerdydd yn ennill teitl mawreddog Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times.

Yn 2015, tra'n gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd (yn ogystal ag Uchel Siryf Morgannwg Ganol), daeth Barbara hefyd yn Ganghellor, a daeth ei chyfnod yn y swydd i ben ym mis Tachwedd 2021 gyda Met Caerdydd yn ennill teitl mawreddog Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times.