Hafan>Newyddion>Cymhwyso ein gwerthoedd moesegol i bob penderfyniad a wnawn

Cymhwyso ein gwerthoedd moesegol i bob penderfyniad a wnawn, ar gyfer staff, myfyrwyr a myfyrwyr y dyfodol

Mawrth 19, 2020

Neges gan yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganhellor

"Ym Met Caerdydd rydym yn ymfalchïo mewn bod yn Brifysgol sy'n cael ei gyrru gan werthoedd lle rydyn ni'n rhoi lles ein myfyrwyr, ein staff a'n cymuned yn gyntaf. Wrth inni frwydro yn erbyn pandemig byd-eang Covid-19 (y Coronafeirws) mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cymhwyso ein gwerthoedd moesegol i bob penderfyniad a wnawn.

Dyma pam rydym wedi gwneud cyfres o benderfyniadau ac ymrwymiadau i'n myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach i helpu i ddarparu cymaint o eglurder a sicrwydd ag y gallwn ar yr adeg bryderus hon.

Yn amlwg, mae'n ddyletswydd arnom i gynnal cynaliadwyedd y Brifysgol yn y tymor hir, ond yn yr un modd rydym yn sylweddoli pa mor aflonyddgar yw'r sefyllfa bresennol i fyfyrwyr a staff.

Er y bydd effaith economaidd Covid-19 yn cael ei theimlo'n eang, a bydd Met Caerdydd yn teimlo hyn hefyd, mae ein rheolaeth ofalus, strategol o'r Brifysgol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn golygu ein bod yn gallu cynnig cefnogaeth ar hyn o bryd, lle rydym yn teimlo ei fod ei angen fwyaf.

Yn ogystal â symud yn gyflym i ddysgu ac asesu ar-lein i'n myfyrwyr, ad-drefnu ein cefnogaeth i fyfyrwyr ar gyfer cyflwyno ar-lein a galluogi'r rhan fwyaf o'n staff i weithio o gartref, rydym wedi gwneud y penderfyniadau allweddol canlynol yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf: 

  • Sicrhau bod yr holl staff, p'un a oes ganddynt gontractau parhaol, tymor penodol neu ddim oriau, yn cael eu talu'n llawn dros y misoedd nesaf, hyd yn oed os na allant fynychu'r Brifysgol. 

  • Sicrhau y bydd taliadau i is-gontractwyr yn cael eu gwneud fel arfer, i'w galluogi i dalu cyflogau rheolaidd i'w staff, fel pob un o'n glanhawyr Prifysgol

  •  Peidio â chymryd unrhyw daliad am lety myfyrwyr a redir gan y Brifysgol ar ôl mis Ebrill os yw myfyrwyr wedi gadael llety ac yn dewis aros gartref. 

  •  Lliniaru'r straen a'r ansicrwydd i ymgeiswyr Cartref / UE, gan ddisodli cynigion amodol ar gyfer Met Caerdydd gyda chynnig diamod ar gyfer mynediad 2020.

Byddwn yn parhau i fod mor ymatebol a chefnogol ag y gallwn gyda'n penderfyniadau a'n cyfathrebu.

Mae hwn yn amlwg yn gyfnod pryderus i fyfyrwyr a staff, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd fel ‘Un Met Caerdydd’, er ei fod o bellter corfforol, i gefnogi ein gilydd yn ystod yr amser heriol hwn."

Yr Athro Cara Aitchison
Llywydd ac Is-Ganghellor