Llwybrau ar gael:
BA (Anrh) Rheoli Digwyddiadau
BA (Anrh) Rheoli Digwyddiadau gydag Interniaeth
Dinas sy’n cynnal digwyddiadau o’r radd flaenaf, sy’n denu artistiaid cerddoriaeth fawr, chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol mewn naill stadiwm eiconig neu’r llall, neu mewn castell a lleoliadau ar hyd a lled y ddinas, mae Caerdydd felly’n le perffaith i astudio cwrs Rheoli Digwyddiadau.
Os mae eich breuddwyd yw cynllunio gwyliau, digwyddiadau chwaraeon, cynadleddau, arddangosfeydd, digwyddiadau codi arian neu hyd yn oed briodasau, mae ein gradd BA (Anrh) Rheoli Digwyddiadau ym Met Caerdydd yn darparu’r sgiliau, y profiad a’r cyfleoedd rhwydweithio sydd eu hangen arnoch i ragori yn y diwydiant digwyddiadau.
Dewch i ddysgu sut i fod yn arbenigwr mewn rheoli digwyddiadau drwy feistroli cysyniadau a thechnegau hanfodol, gan gynnwys dylunio creadigol a thematig digwyddiadau, llwyfannu a chynhyrchu, marchnata a hyrwyddo, rheoli prosiectau, diogelwch a thrwyddedu, gwerthuso effaith, cynaliadwyedd, rheolaeth strategol, cyllid, ac offer hanfodol eraill y diwydiant.
Drwy ddeall y materion moesegol sy'n wynebu'r diwydiant digwyddiadau, byddwch yn dod i'r amlwg fel rheolwr digwyddiadau strategol a chyfrifol, gyda'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth am gynaliadwyedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y diwydiant digwyddiadau.
Rydym yn gweithio gyda chwmnïau rheoli digwyddiadau, sefydliadau a lleoliadau lleol gan gynnwys Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Wales), Canolfan Mileniwm Cymru, Orchard Live a Gŵyl Between the Trees. Byddwch yn cael cyfle i gynnal prosiectau byw gyda diwydiant i ennill profiad ymarferol. Hefyd, mae gennym ystafell lletygarwch pwrpasol ar y campws i gynnal digwyddiadau byw.
Cewch gyfle hefyd i ymgymryd â phrofiad gwaith yn y diwydiant yn eich ail flwyddyn a'r opsiwn i ymgymryd â lleoliad gwaith sy’n flwyddyn o hyd yn y DU neu dramor, rhwng blwyddyn dau a'r flwyddyn olaf, gyda'n llwybr Interniaeth Rheoli Digwyddiadau. Mae gennym bartneriaethau parhaus gydag Extreme E, Yummy Jobs (Disney) a Greenwich Country Club ac mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys Hewlett Packard (Global Events), Cancer Research UK (digwyddiadau a chodi arian) a Ironman (interniaeth digwyddiadau).
Gyda sioeau uchel eu proffil wedi gwerthu allan yn Stadiwm Principality gydag enwogion mawr megis Taylor Swift, Ed Sheeran a Beyoncé, i ddigwyddiadau chwaraeon mawr fel Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chwpan Rygbi'r Byd, a digwyddiadau gwleidyddol rhyngwladol hyd yn oed fel Uwchgynhadledd NATO - mae Caerdydd wir yn ddinas ddigwyddiadau a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Blwyddyn Sylfaen
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y
flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Cynnwys y Cwrs
Gradd:
Blwyddyn Un:
Bydd y flwyddyn gyntaf yn eich cyflwyno i'r cysyniadau allweddol ym maes rheoli busnes a digwyddiadau.
Pob modiwl gorfodol:
- Profiad a Dylunio Digwyddiad (20 credyd)
- Digwyddiadau yn y Gymdeithas (20 credyd)
- Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Digwyddiadau (20 credyd)
- Datblygu Pobl o Fewn Sefydliadau (20 credyd)*
- Marchnata ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)*
- Refeniw, Costio a Rheolaethau Cyllidebol (20 credyd)
*Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn Dau:
Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar eich sylfaen wybodaeth bresennol ac yn symud ymlaen i feysydd mwy arbenigol o reoli digwyddiadau.
Modiwlau gorfodol:
- Rheoli Digwyddiad Byw (20 credyd)
- Cynllunio Digwyddiad ar Raddfa Fawr (20 credyd)
- Cynllun Ymchwil ar Waith (20 credyd)*
Modiwlau dewisol gorfodol (dewiswch o leiaf un):
- Ymddygiad Defnyddwyr ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)*
- Rheoli Pobl ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
- Cychwyn Busnes ac Entrepreneuriaeth (20 credyd)
Modiwlau Dewisol
- Lleoliad Gwaith Haf (20 credyd)
- Newid Cymdeithasol a Chydraddoldeb (20 credyd)
- Technolegau ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau (20 credyd)
*Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn Tri:
Mae'r drydedd flwyddyn yn galluogi myfyrwyr i deilwra eu gradd yn seiliedig ar eu diddordebau a'u dyheadau gyrfa.
Modiwlau gorfodol:
- Cynaliadwyedd a Moeseg mewn Digwyddiadau (20 credyd
- Arloesi mewn Digwyddiadau Byw (20 credyd)
- Arweinyddiaeth Strategol a Rheoli Newid (20 credyd)
- Traethawd hir* / Prosiect Menter* / Prosiect Ymgynghori (40 credyd) neu Astudiaeth Annibynnol (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Cyfathrebu Marchnata yn yr Oes Ddigidol (20 credyd)
- Rheoli Adnoddau Gweithwyr a Gwirfoddoli 20 credyd)
- Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol gyda Mentora (20 credyd)
- Rheolaeth Cyrchfannau a Stadia (20 credyd) (20 credyd)
- Twristiaeth Gastronomig (20 credyd)
*Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Dysgu ac Addysgu
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau ac ymarferion ymarferol ac yn cael ei gefnogi gan ein platfform ar-lein Moodle.
Yn ogystal, cewch gyfle i gymryd rhan yn y canlynol:
- Prosiectau digwyddiadau byw ym mlynyddoedd 1 a 2
- Profiad gwaith
- Teithiau maes
- Prosiectau grŵp
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau grŵp
- Ymchwil a darllen dan gyfarwyddyd
- Darlithoedd gan ddarlithwyr gwadd
- Tystysgrifau wedi'u dilysu'n allanol
Ar unrhyw un modiwl 20 credyd, byddwch yn derbyn hyd at 48 awr o amser cyswllt a bydd disgwyl i chi wneud 152 awr o amser hunan-astudio annibynnol. Mae'r darlithwyr nid yn unig yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu a dysgu ond yn gweithredu fel cymorth, gan ddarparu gwasanaethau Tiwtor Personol trwy gydol eich amser yn y brifysgol, ochr yn ochr â Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gan ein bod yn rhoi profiad 'byd go iawn' wrth wraidd ein rhaglen, yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno eich prosiect digwyddiadau eich hun, o fewn amgylchedd rheoledig y brifysgol.
Yn yr ail flwyddyn rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o elusennau i godi arian ac ymwybyddiaeth. Bydd gofyn i chi ymchwilio, datblygu, cyflwyno, cynllunio a gwerthuso eich prosiect digwyddiad byw eich hun mewn lleoliad o'ch dewis (modiwl Rheoli Prosiect Digwyddiadau). Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ddigwyddiad cerddoriaeth, i sioe ffasiwn, noson gomedi, neu sioe dalent.
Mae ein holl fyfyrwyr yn cael y cyfle ac yn cael eu hannog i wneud y radd Rheoli Digwyddiadau gydag Interniaeth lle byddwch yn treulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o'r cwrs. Mae myfyrwyr diweddar wedi treulio'r amser hwn gyda sefydliadau fel Hewlett Packard, Disney, y Greenwich Country Club a chadwyni gwestai rhyngwladol amrywiol.
Mae ein cysylltiadau â'r diwydiant yn golygu bod cyfleoedd i ennill profiad yn mynd ymhell y tu hwnt i'n modiwlau lleoliad gwaith swyddogol hefyd ac rydym yn annog ein myfyrwyr i ymgymryd â gwaith cyflogedig a gwirfoddol drwy gydol eu hastudiaethau.
Asesu
Mae asesiadau cwrs yn eang eu cwmpas ac yn gysylltiedig â deilliannau dysgu modiwlau unigol a'r sgiliau diwydiant ac academaidd y bwriedir iddynt eu datblygu. Felly mae asesiadau'n cynnwys prosiectau ymchwil; cynigion, cynlluniau a dogfennau eraill yn gysylltiedig â digwyddiadau; digwyddiadau byw; traethodau; adroddiadau; cyflwyniadau; portffolios; astudiaethau achos; a ffefryn pawb, arholiadau.
Amcan arall ein hasesiadau yw datblygu a hyrwyddo sgiliau trosglwyddadwy a bod o ddefnydd ymarferol wrth weithio yn y diwydiant digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn tîm, datrys problemau, sgiliau cyflwyno, sgiliau digidol, cyfathrebu a gweithio o dan bwysau.
Bydd myfyrwyr yn derbyn ystod eang o adborth ar eu gwaith trwy asesiad ffurfiannol a chrynodol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd pob myfyriwr yn elwa o gael ei Diwtor Personol unigol ei hun a fydd yn aros gyda chi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen, Tiwtoriaid Blwyddyn a
Gwasanaethau Myfyrwyr i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eich amser ym Met Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae ein hanes maith o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus a'r ffaith ein bod wedi'n lleoli yng Nghaerdydd sy'n ddinas digwyddiadau yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa unigryw i gynnig cyfleoedd i’n myfyrwyr ennill profiad ym mhob sector o’r diwydiant. O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd bydd ein tîm academaidd a'n gwasanaeth gyrfaoedd yn gwneud eu gorau glas i roi cyfleoedd i chi wella eich cyflogadwyedd a chyflawni eich uchelgeisiau gyrfaol.
Mae gennym arweinydd cyflogadwyedd penodedig o fewn yr
Gwasanaeth Gyrfaoedd, sy'n agored i fyfyrwyr presennol a graddedigion diweddar. Gyda'i gilydd, mae'r tîm hwn yn darparu amrywiaeth o
ddigwyddiadau gyrfaoedd gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd a fforymau a
chymorth gan gynnwys sgyrsiau a gweithdai cyflogadwyedd. Mae Ysgol Reoli Caerdydd hefyd yn gartref i'r
Ganolfan Entrepreneuriaeth, adran arbennig Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer cefnogi ac annog entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr a graddedigion.
Wrth raddio o'n cwrs Rheoli Digwyddiadau dylai fod gennych gymhwyster rheoli a CV rhagorol a fydd yn golygu y bydd gennych ragolygon gyrfa a chyflogaeth ardderchog ym mhob rhan o'r diwydiant digwyddiadau, gan gynnwys gwyliau, cynadleddau, arddangosfeydd, lletygarwch corfforaethol, chwaraeon, codi arian, nawdd, marchnata drwy brofiad a mwy.
Mae ein graddedigion Rheoli Digwyddiadau wedi cael swyddi mewn gwahanol sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yn amrywio o leoliadau rhyngwladol a chwmnïau digwyddiadau i gadwyni gwestai, cwmnïau teithio, noddwyr mawr, digwyddiadau chwaraeon, awdurdodau lleol, elusennau a sefydliadau’r sector preifat.
I'r rhai sy'n chwilio am astudiaethau pellach y tu hwnt i radd, rydym yn cynnig rhaglen Meistr mewn
Rheoli Prosiect Digwyddiadau hefyd ochr yn ochr â
chyrsiau mewn meysydd amrywiol eraill, y gall ein graddedigion Rheoli Digwyddiadau symud ymlaen iddynt.
Dewch i un o'n
diwrnodau agored a gallwn ddweud mwy wrthych am y cyfleoedd cyffrous hyn.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
-
Pwyntiau tariff: 96-112
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM
-
Lefel T: Pasio (C+) – Teilyngdod.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni