Skip to main content

Seicoleg mewn Addysg – MSc

Wedi’i leoli yn un o’r canolfannau mwyaf ar gyfer addysg a hyfforddiant athrawon ym Mhrydain, mae’r MSc mewn Seicoleg ac Addysg yn edrych yn fanwl ar sut mae modd cymhwyso damcaniaeth ac ymchwil i ddealltwriaeth uwch o ymddygiad mewn cyd-destunau addysgol. Nid oes rhaid bod wedi astudio seicoleg yn flaenorol na bod â dealltwriaeth o’r pwnc.

Mae'r cwrs trosi hwn sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicoleg Prydain, yn cynnig Aelodaeth Siartredig (GBC) i’r rhai sydd hebddi ar hyn o bryd (sy’n hanfodol er mwyn dilyn gyrfa ym maes seicoleg).

Bydd y radd ddwys hon o ddiddordeb i unrhyw un sy’n dymuno dwysáu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o sut mae cymhwyso seicoleg i addysg. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd eisoes â gradd seicoleg achrededig oherwydd ffocws cymhwysol y cwrs a chyfle am brofiad gwaith pellach, dau beth sy’n berthnasol i gyflawni hyfforddiant proffesiynol. Ar gyfer y myfyrwyr hyn, er efallai y bydd rhywfaint o’r cyd-destun damcaniaethol yn teimlo’n gyfarwydd, bydd cymhwyso i gyd-destunau addysgol yn newydd ac yn heriol.

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r MSc sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicoleg Prydain yn llwyddiannus yn cael ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i gyflogwyr, fel rhesymu rhifiadol, sgiliau cyfathrebu, llythrennedd cyfrifiadurol, meddwl beirniadol a datrys problemau, rheoli prosiectau a gwaith tîm.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Ar gyfer y cwrs MSc, bydd myfyrwyr yn astudio'r modiwlau canlynol*:

Datblygiad unigol (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r damcaniaethau seicolegol allweddol sy’n sail i ddealltwriaeth bresennol o ddatblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol, ac yn ystyried eu goblygiadau posib i addysg. Mae’r pynciau’n cynnwys datblygiad gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol, cyfnod niweidiol yn yr ysgol a phlentyndod, gan gynnwys cymhwyso damcaniaeth ymlyniad, a datblygiad iaith a llythrennedd.

Niwroaddysg (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn ystyried sut gall ymagwedd niwrowyddonol lywio arfer a pholisi addysg. Bydd yn cyflwyno fframweithiau cysyniadol ar gyfer dealltwriaeth feirniadol o arfer proffesiynol o safbwynt niwroaddysg. Yn ogystal â thrafod cysyniadau hanfodol mewn niwrowyddoniaeth, esblygiad a dysgu, a niwroamrywiaeth, bydd y modiwl yn ystyried niwrofythau addysgol a materion newydd fel crono-addysg a chynnydd gwybyddol.

Dysgu ac addysgu (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn ystyried ymchwil mewn seicoleg sy’n gysylltiedig â sut caiff disgyblion eu haddysgu a sut mae disgyblion yn dysgu, a’u goblygiadau ymarferol i addysgu a dysgu. Bydd prosesau gwybyddol sylfaenol yn cael eu trafod, fel cof, cymhelliant, emosiwn a metawybyddiaeth, a chymhwyso’r prosesau hyn, er enghraifft deall y defnydd o dechnoleg gwybodaeth wrth addysgu a chyfathrebu yn y dosbarth.

Iechyd meddwl a lles (20 credyd)
Bydd y modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o ddamcaniaethau iechyd meddwl a lles, ac yn ystyried amrywiaeth o fframweithiau ar gyfer rheoli anawsterau seicolegol, fel y rhai sy’n gysylltiedig ag iselder a chamddefnyddio sylweddau, a chyflawni newid cadarnhaol. Bydd ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar iechyd, lles ac ymddygiad mewn plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried, ynghyd â’u heffaith ar addysg.

Ymchwil seicoleg mewn addysg (20 credyd)
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth a sgiliau sy’n gysylltiedig ag ymagweddau ansoddol a meintiol tuag at ymchwil seicolegol yng nghyd-destun addysg, gyda’r nod o greu dealltwriaeth glir o nodweddion ymchwil foesegol a thrwyadl yn wyddonol. Bydd gweithdai labordy yn galluogi myfyrwyr i ddysgu ac ymarfer sgiliau ymchwil allweddol, fel dadansoddi data a dehongli canlyniadau a llunio adroddiadau ymchwil. Bydd y gallu i gynllunio a chynnal ymchwil seicolegol yn cael ei ddatblygu i baratoi ar gyfer y traethawd hir.

Lleoliad proffesiynol (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes yn aelod o Gymdeithas Seicoleg Prydain yn unig, a gellir ei gymryd yn lle unrhyw fodiwl 20 credyd arall (ac eithrio Ymchwil Seicoleg mewn Addysg).
Mae’r modiwl Lleoliad Proffesiynol hwn yn cynnig cyfle delfrydol i gynyddu profiad gwaith yn sylweddol mewn cyd-destun addysgol, a datblygu sgiliau ymchwil gweithredol a chymhwyso dealltwriaeth newydd mewn lleoliadau byd go iawn. Bydd yn cynnwys treulio cyfwerth ag un diwrnod llawn bob wythnos mewn lleoliad proffesiynol, sef cyfanswm o 60 awr. Yn y lleoliad hwn, bydd darn o ymchwil weithredol, wedi’i negodi gyda’r darparwr, yn cael ei chwblhau.

Prosiect ymchwil empirig (60 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i gynnal astudiaeth empirig annibynnol ar bwnc sydd wedi’i negodi â goruchwyliwr traethawd hir. Adroddiad ymchwil sylweddol yw hwn, sy’n cynnwys dewis, rhesymoli a chyflwyno cynnig ymchwil yn dilyn canllawiau moesegol llym, ac yna cyflwyno’r prosiect yn gydlynus ac yn llawn mewn arddull academaidd briodol.

*Gellir astudio modiwlau yn yr MSc fel modiwlau unigol opsiynol i gynyddu gwybodaeth mewn pynciau penodol.


Dysgu ac Addysgu

Mae pob modiwl, ac eithrio’r Prosiect Ymchwil Empirig, yn fodiwlau 20 credyd. Mae’r ddarpariaeth addysgu ddynodedig a amserlennir (amser cyswllt) ar gyfer modiwlau 20 credyd gyfwerth ag o leiaf 24 awr, a chaiff hyn ei ategu ag astudiaeth annibynnol.

Rydyn ni’n defnyddio ystod o ddulliau a fformatau addysgu i sicrhau profiad dysgu amrywiol a diddorol. Caiff modiwlau fel arfer eu haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Mae hefyd dwy ysgol Sadwrn orfodol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil. Defnyddir trafodaethau a thasgau grŵp yn aml.

Cefnogir dysgu myfyrwyr drwy ddefnyddio ein rhith-amgylchedd dysgu (Moodle), sy’n darparu adnoddau dysgu sydd y tu hwnt i’r hyn sydd i’w gael yn y ganolfan ddysgu (llyfrgell). Cefnogir pob dysgwr gyda mynediad at diwtor personol a goruchwyliwr prosiect.

Mae cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr sydd eisoes yn meddu ar aelodaeth gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain i wella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad drwy leoliad ymarfer proffesiynol mewn lleoliad addysg. Yn ogystal â chael profiad gwaith pwysig, byddwch yn cynhyrchu darn asesedig o ymchwil weithredol, gan ddatblygu datrysiad ymarferol i broblem a nodir gan ddarparwr y lleoliad. Byddwch yn treulio diwrnod yr wythnos ar leoliad drwy un semester llawn.


Asesu

Asesir yr MSc drwy ystod o aseiniadau gwaith cwrs gwahanol – e.e. cyflwyniadau, adroddiadau, traethodau, astudiaethau achos, posteri academaidd, cynigion ymchwil. Nid oes arholiadau ffurfiol. Caiff asesiadau eu gwasgaru er mwyn rheoli amserlenni yn ofalus, ac maent wedi’u cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o faterion damcaniaethol, cymhwysol, ac arfer proffesiynol. Mae gan bob asesiad farc pasio o 50%. Bydd myfyrwyr yn cael adborth ar eu gwaith asesedig a fydd yn eu helpu i ddysgu’n fwy effeithiol a chynorthwyo yn natblygiad eu sgiliau ymarferol a meddwl beirniadol a myfyriol.

Mae gofyn i bob myfyriwr MSc gwblhau prosiect ymchwil empirig, y gellir ei gyflwyno un ai ar ffurf thesis traddodiadol neu ar ffurf papur i’w gyhoeddi. Er mwyn bod yn gymwys am aelodaeth Cymdeithas Seicoleg Prydain, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael marc pasio o 50% neu fwy yn y Prosiect Ymchwil Empirig.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae’r MSc hwn yn gwrs trosi sy’n darparu aelodaeth â Chymdeithas Seicoleg Prydain. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am seicoleg. Gellir ei astudio drwy ddiddordeb neu chwilfrydedd ddeallusol am seicoleg ac addysg, neu am resymau datblygiad proffesiynol parhaus a gwella gyrfa. Mae hefyd yn gwrs delfrydol os hoffech ddilyn gyrfa mewn seicoleg ond nad ydych chi wedi astudio seicoleg ar lefel israddedig, neu os ydych chi wedi astudio seicoleg ar raglen nad yw wedi’i hachredu.

Mae aelodaeth â Chymdeithas Seicoleg Prydain yn rhagofyniad ar gyfer rhaglenni hyfforddiant proffesiynol mewn seicoleg sy’n arwain at statws Seicolegydd Siartredig a galwedigaethau mewn meysydd fel Seicoleg Cwnsela, Addysgol, Clinigol, Galwedigaethol ac Iechyd. Nid yw’r radd MSc hon yn gwarantu mynediad at y rhaglen hyfforddiant proffesiynol angenrheidiol.

Mae’r radd MSc hon hefyd yn gallu arwain at ystod o yrfaoedd lle mae dealltwriaeth o ymddygiad dynol neu ddulliau ymchwil yn berthnasol. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau y byddwch chi’n eu hennill yn ddeniadol i gyflogwyr ym maes addysg, gofal iechyd meddwl, gwaith teulu a ieuenctid, gwaith cymdeithasol, rheoli ac ymchwil. Byddai’r sgiliau dysgu annibynnol ac ymchwil y byddwch chi’n eu cael ar y cwrs hwn hefyd yn eich paratoi’n dda ar gyfer astudiaeth bellach, er enghraifft PhD.

Mae’n bosib y byddai’r cwrs hefyd o ddiddordeb i fyfyrwyr sydd eisoes yn meddu ar aelodaeth o Gymdeithas Seicoleg Prydain ond sydd angen cynyddu eu profiad gwaith neu ddwysáu eu dealltwriaeth o seicoleg gymhwysol. Yn achos y myfyrwyr hyn, mae opsiwn gwerthfawr ar gyfer gwella eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwaith drwy leoliad proffesiynol am semester mewn lleoliad addysg. Fe’i asesir drwy ddarn o ymchwil weithredol ar y lleoliad, wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â darparwr y lleoliad a’i oruchwylio gan aelod o dîm y cwrs.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr radd Anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch neu gyfwerth, mewn unrhyw bwnc.

Ystyrir pob ymgeisydd yn sail eu rhinweddau academaidd a’u gallu i ddangos diddordeb a gallu yn y maes pwnc. Er enghraifft:

  • Bydd ymgeiswyr sy’n meddu ar aelodaeth Raddedig o Gymdeithas Seicoleg Prydain (GMBPsS) yn cael eu hystyried gyda gradd Anrhydedd ail ddosbarth is neu gyfwerth.
  • Bydd ymgeiswyr sydd wedi cwblhau astudiaethau ôl-raddedig yn llwyddiannus yn cael eu hystyried os yw eu gradd Anrhydedd gyntaf yn is na ail ddosbarth uwch neu gyfwerth.


Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a’r cymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r brifysgol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

​Rydym yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr rhan-amser. Yn gyffredinol, mae myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau’r rhaglen dros ddwy flynedd, gyda MPS7006 Ymchwil Seicoleg mewn Addysg yn y flwyddyn gyntaf a MPS7007 Prosiect Ymchwil Empirig yn yr ail flwyddyn. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch am gymryd tri modiwl 20 credyd arall yn y flwyddyn gyntaf, a dau fodiwl 20 credyd yn yr ail flwyddyn. Fe’ch cynghorir yn gryf, unwaith y byddwch wedi cael cynnig lle, eich bod yn cyfarfod â’r Cyfarwyddwr Rhaglen cyn dechrau cofrestru, fel eich bod yn cofrestru ar fodiwlau sy’n addas i’ch amgylchiadau.​

Nid yw Cydnabod Dysgu Blaenorol (​RPL) ar gael ar gyfer y rhaglen hon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gostyngiad i Weithwyr Partner

Mae gostyngiad ffioedd o 25% ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cael eu cyflogi yn un o ysgolion partneriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon neu gymuned bartneriaeth. Mae meini prawf a thelerau cymhwysedd yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Derbyniadau.

Cysylltu â Ni

​​Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy ffonio 029 2041 6044 neu anfonwch ​e-bost at directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau sy’n benodol i’r cwrs, cysylltwch â:

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Wedi’i achredu gan:
Cymdeithas Seicoleg Prydain

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn llawn amser, dwy flynedd yn rhan amser.