Hafan>Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth

Pwy ydym ni

Logo y Ganolfan Entrepreneuriaeth

Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth a'n staff yn rhan o gymuned gydnerth, weithgar ac ymgysylltiol. Ein cenhadaeth yw eich galluogi i gydnabod a datblygu cyfleoedd i greu gwerth.​

Ein Gweledigaeth

Byddwn yn ysbrydoli entrepreneuriaid i gael effaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang trwy greu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac ariannol.

Byddwn yn gweithredu fel catalydd wrth greu sefydliadau cynaliadwy newydd, gan roi'r hyder a'r sgiliau ymarferol i sylfaenwyr greu gwerth yn eu syniadau. Byddwn yn cael ein cydnabod yn genedlaethol am y gweithgaredd hwn.

Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd a byddwn yn hwyluso hyn trwy weithio ar y cyd â chydweithwyr academaidd i gefnogi addysg entrepreneuriaeth, sy'n ymgysylltu, yn grymuso ac yn cael ei arwain gan ymchwil.​

Byddwn yn cyfrannu at gynhyrchu a chymhwyso ymchwil sy'n arwain y byd fel bod y brifysgol yn cael ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth mewn addysg entrepreneuraidd, creadigrwydd entrepreneuriaeth, ac arloesedd.


​​

​​​​

Maniffesto'r Ganolfan Entrepreneuriaeth

Erthygl 1
Chi sy’n diffinio llwyddiant, nid yw'n cael ei ddiffinio gennym ni, y farchnad nag unrhyw awdurdod arall. Credwn fod bod yn hapus yn rhan hanfodol o fod yn llwyddiannus. Felly, p'un a ydych chi eisiau gweithio ar eich liwt eich hun am ychydig o incwm ychwanegol, sefydlu elusen sy'n achub bywydau neu fod yr Elon Musk nesaf, byddwn ni'n trin eich llwyddiant yr un mor bwysig.

Erthygl 2
Credwn y gall y byd fod yn lle gwell, ac y gallwn, trwy weithredu, gyflawni hyn - dyma ystyr entrepreneuriaeth. Nid ydym yn tanamcangyfrif yr her hon, a dyna pam y byddwn yn eich herio chi a ninnau i darfu ar fusnes fel arfer.

Erthygl 3
Mae ein cymuned yn agored, amrywiol, cadarnhaol a chroesawgar; mae'n agored i bobl o bob rhyw, rhywioldeb, hil, lliw a chrefydd. Nid oes croeso i anghwrteisi ac agweddau negyddol. Byddwn bob amser yn eich trin â pharch, ac rydym yn disgwyl i chi gwneud yr un fath. Nid yw hyn yn golygu y byddwn bob amser yn cytuno â chi, neu y byddwch bob amser yn cytuno â ni - adborth yw un o'r pethau mwyaf gwerthfawr y gall person ei roi neu ei dderbyn. 

Erthygl 4 
Mae entrepreneuriaeth yn grefft sy'n cymryd ymarfer i'w meistroli, ac mae sgiliau sylfaenol y gellir eu dysgu a'u profi yn sail iddi.

Erthygl 5
NID entrepreneuriaeth yw ysgrifennu cynllun busnes . Er bod y gallu i ysgrifennu cynllun busnes yn offeryn rheoli defnyddiol, mae rheolaeth ac entrepreneuriaeth yn ddisgyblaethau gwahanol. Nid yw ysgrifennu cynllun busnes yn eich paratoi i redeg busnes, ac ni all asesu gallu entrepreneuraidd unigolyn ychwaith. Mae arloesi ac entrepreneuriaeth, yn ôl eu natur, yn newid y dyfodol - gan wneud cynllun busnes yn ddarfodedig.

Erthygl 6
Mae elw yn rhoi bwyd ar y ford, mae newid cadarnhaol yn rhoi tân yn eich bol. Mae entrepreneuriaeth yn creu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac ariannol, nid yw'n symud arian o un lle i'r llall yn unig. Mae ymwybyddiaeth fasnachol a llythrennedd ariannol yn offer hanfodol wrth greu gwerth.

Erthygl 7
Mae gweithredu heb feddwl yn beryglus. Mae meddwl heb weithredu yn ddibwrpas. 

Ariennir y Ganolfan yn rhannol trwy gefnogaeth garedig Llywodraeth Cymru a  Syniadau Mawr Cymru. Darperir cyllid ar gyfer busnesau newydd a chystadlaethau gan Brifysgolion Santander.