Hafan>Newyddion>Myfyriwr graddedig yn cydweithio â John Legend ac yn gweld elw busnes yn dwblu

Myfyriwr graddedig yn cydweithio â John Legend ac yn gweld elw busnes yn dwblu

​​Newyddion | 26 Medi 20​23

Charlotte Manser
Charlotte Manser

​Mae myfyriwr graddedig o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei ddewis i gydweithio gyda’r canwr John Legend, sydd wedi ennill Oscar a Grammy, ar ei gasgliad dylunio mewnol.

Graddiodd Charlotte Manser, 28, o Swindon, o BA Cerameg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2017. Ers hynny mae hi wedi mynd ymlaen i redeg busnes chwe ffigwr – Charlotte Manser Ceramics – gan wneud a gwerthu crochenwaith swyddogaethol ar Etsy.

Daw’r cyfle i weithio gyda John Legend ar ôl i’r artist a’r entrepreneur arobryn gyd-gynllunio’r llinell Creator Collab Creator Collab newydd sbon mewn partneriaeth ag Etsy. Dewisodd John 11 o siopau Esty sy’n eiddo i fenywod, du neu leiafrifol i greu cydweithrediad dylunio mewnol haf a gaeaf gyda nhw. Charlotte oedd yr unig werthwr a ddewiswyd o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Charlotte: “Mae’r holl broses wedi bod yn wallgof, yn bennaf oherwydd nad oeddwn yn cael dweud wrth neb. Ers i’r cydweithrediad lansio ym mis Mehefin mae fy ngwerthiant wedi dyblu. Mae’n wych bod cwsmeriaid newydd yn gweld fy ngwaith ac mae wedi dod â chynulleidfa ryngwladol ehangach i’m siop. Byddwn wrth fy modd yn gwneud mwy o gydweithio yn y dyfodol a gobeithio y bydd mwy o gyfleoedd yn codi.

“Roedd yn gymaint o anrhydedd. Dros gyfnod o chwe mis fe wnes i weithio i friff, cael fy ysbrydoli, a gwneud llawer o brofion i gynhyrchu’r casgliad terfynol sy’n cynnwys mygiau, powlenni anifeiliaid anwes a coasters.”

Mae gan Charlotte angerdd am greu gwrthrychau o ddeunyddiau crai’r ddaear ac mae’n dweud bod ei hymrwymiad i gynaliadwyedd a chariad at y byd naturiol wedi ei hysbrydoli i gychwyn ar y daith hon.



Llwyddodd Charlotte i ddechrau ei busnes yn 2019 o’r cyllid a dderbyniodd gan Ganolfan Entrepreneuriaeth Met Caerdydd. Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda myfyrwyr ac yn eu helpu i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Mae’r tîm yn cydweithio â chydweithwyr academaidd i gefnogi addysg entrepreneuriaeth, sy’n ymgysylltu, grymuso ac arwain ymchwil.

Aeth Charlotte ymlaen i ddweud: “Yn y brifysgol roedd fy ngwaith yn fwy cerfluniol a doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn sefydlu busnes – roeddwn i eisiau bod yn athro. Ar ôl dwy flynedd fel intern addysgu, penderfynais sefydlu busnes yn lle hynny. Er na chymerais y llwybr mwyaf seiliedig ar fusnes yn fy addysg, dysgais lawer o hyd am wneud gwaith i werthu ac ati. Roedd yr arian a gefais gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd yn caniatáu i mi brynu offer pwysig i ddechrau fy musnes. Ni ddylid colli’r cyfleoedd hyn!

“Dros y tair blynedd diwethaf rwyf wedi gweithio i adeiladu fy musnes yn gwneud ac yn gwerthu fy nghrochenwaith swyddogaethol sydd bellach â throsiant chwe ffigwr, pedwar aelod o’r tîm, ac sy’n cael ei werthu ledled y byd. Mae’n wallgof!”

Mae Charlotte hefyd yn awyddus i barhau â pherthynas waith agos gyda Met Caerdydd ac yn ddiweddar dychwelodd i roi sgwrs â myfyrwyr presennol: “Pan ddychwelais i Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, cwrddais ag Edith ac Esme, sydd bellach yn gweithio i mi. Rwyf am gynnal perthynas â myfyrwyr Met Caerdydd a gobeithio darparu lle i ymgymryd â myfyriwr bob blwyddyn fel aelod newydd o’m tîm.

“Rydw i eisiau dangos i fyfyrwyr y gallwch chi wneud bywoliaeth yn gwneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau.

“Fy nghyngor mwyaf i bobl sy’n dod i’r brifysgol yw herio’ch hun a gwneud y gorau o bob cyfle. Mae’n gam mawr i symud oddi cartref, cwrdd â phobl newydd a chymryd cam i fyny yn eich addysg. Dewch o hyd i gwrs rydych chi’n ei garu a byddwch chi bob amser yn cael eich cymell a’ch ysbrydoli. Yn y pen draw, does dim byd cystal â chwarae gyda chlai bob dydd!”

Mae Creator Collab yn gydweithrediad cartref a byw argraffiad cyfyngedig mewn partneriaeth ag Etsy. Gweithiodd John Legend gyda’r 11 artist dethol, gan gynnwys Charlotte – ysbrydolwyd y darnau gan arddull dylunio mewnol John ei hun a bywyd cartref. Dywedodd John: “Mae’n bwysig i mi lenwi fy nghartref gyda darnau o ansawdd uchel wedi’u gwneud gan bobl sy’n mynd at eu crefft gyda bwriad. Roedd cael cydweithio gyda’r artistiaid talentog yma yn brofiad mor arbennig, achos mae’r cynnyrch gorffenedig yn adrodd stori am y bobl wnaeth eu creu.​”

Darganfyddwch fwy am Charlotte Manser Ceramics a’r Creator Collab ar Etsy: www.etsy.com/uk/blog/john-legend-creator-collab​