Hafan>Newyddion>Ysgol Reoli Met Caerdydd yn sicrhau gwobr fusnes sylweddol i gefnogi BBaChau

Ysgol Reoli Met Caerdydd yn sicrhau gwobr fusnes sylweddol i gefnogi BBaChau

​Newyddion | 2 Mai 2023

Mae Ysgol Reoli Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i hailachredu â Gwobr fawreddog y Siarter Busnesau Bach (SBC) am bum mlynedd arall yn dilyn cydnabyddiaeth o’i chefnogaeth i BBaChau, gan ysgogi twf economi Cymru.

Mae Gwobr y Siarter Busnesau Bach yn anrhydeddu ysgolion busnes o safon fyd-eang y DU, gan ddathlu’r rhai sy’n chwarae rhan effeithiol wrth gefnogi busnesau bach, economïau lleol ac entrepreneuriaeth myfyrwyr.

Er mwyn cyflawni Gwobr y Siarter Busnesau Bach, cynhaliodd Ysgol Reoli Met Caerdydd archwiliad dwy flynedd trwyadl i bennu effeithiolrwydd ei chymorth busnes, addysg entrepreneuriaeth ac ymgysylltiad â’r economi leol.

Canmolwyd Met Caerdydd am ei phroffil cryf gyda busnesau lleol, llywodraeth genedlaethol a lleol a sectorau busnes penodol, gan gynnwys y diwydiannau twristiaeth a bwyd. Roedd y Siarter Busnesau Bach yn cydnabod bod gan yr ysgol academyddion yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar bolisi ac mae wedi cydweithio ag adrannau’r llywodraeth i greu prosiectau mawr, fel Cymunedau Arloesedd yr Economi Gylchol, sy’n darparu cymorth sylweddol i BBaChau.

Mae Rhaglen Arwain Twf Busnes 20Twenty yr ysgol, sydd wedi rhedeg am gyfnod o saith mlynedd, wedi’i chanmol fel un ragorol, wedi rhagori ar ei thargedau ac wedi ymgysylltu â dros 700 o arweinwyr busnes ers ei sefydlu.

Yn olaf, cydnabuwyd gwaith gyda’r Ganolfan Entrepreneuriaeth am gefnogi cymuned iach o entrepreneuriaid myfyrwyr a graddedig, sydd ag enw da am gychwyn busnes. Ymhellach i hyn, mae cymdeithas Enactus o fewn yr ysgol yn tyfu entrepreneuriaeth gymdeithasol gyfrifol ac ysbrydoledig ymhlith myfyrwyr.

Gyda’r wobr wedi’i hailachredu, gall Met Caerdydd nawr rannu a datblygu dulliau llwyddiannus o gefnogi busnes, ymgysylltu ac entrepreneuriaeth myfyrwyr. Mae’r wobr hefyd yn caniatáu i’r ysgol gael mynediad at gyllid y llywodraeth i gyflwyno rhaglenni fel Help i Dyfu – cwrs ar gyfer perchnogion busnesau bach a chanolig sy’n awyddus i dyfu eu sefydliadau, gwella eu sgiliau arwain a chael mynediad at fentora er mwyn rhoi mantais gystadleuol i’w sefydliadau.

Dywedodd yr Athro David Brooksbank, Deon Ysgol Reoli Caerdydd: “Ar ôl dod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad Siarter Busnesau Bach, rydym yn hynod falch ein bod wedi cadw’r Wobr am bum mlynedd arall. “Amlygodd adborth ar ein cais y ffordd y mae’r brifysgol gyfan yn unedig y tu ôl i’n cenhadaeth i helpu busnesau bach ar draws y rhanbarth ac adlewyrchodd ansawdd y cymorth y mae Met Caerdydd yn ei roi i’r gymuned fusnes. Rwy’n hyderus y bydd y Siarter Busnesau Bach yn gweithredu fel bathodyn rhagoriaeth i agor cyfleoedd ariannu newydd i gefnogi ein rhaglenni hyfforddiant arweinyddiaeth trawsnewidiol sydd â’r nod o helpu BBaChau Cymru i ffynnu a thyfu.”