Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth>Cyfarfod â'r Tîm

Cyfarfod â'r Tîm

Neil Coles: Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Entrepreneuriaeth Menter​

Swydd

Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Menter / Entrepreneuriaeth  Rwy’n canolbwyntio ar gyflwyno, galluogi a hyrwyddo cwricwlwm wedi’i gyfoethogi â menter.   Mae gen i brofiad academaidd mewn partneriaethau, addysgu ar gyfer arloesi a datblygu rhaglenni.  Yn ychwanegol at hyn mae gen i brofiad dadansoddol ac arwain ym maes ymgysylltu â chyflogwyr a chymorth entrepreneuriaeth.  Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rwy’n trosi amcanion academaidd â thema yn ddysgu dilys, gan alluogi myfyrwyr i ddod yn raddedigion sy’n gallu darparu gwerth i gymdeithas.

Mae gennyf ddiddordeb mewn ymchwil ysgolheigaidd ar addysg menter ac entrepreneuriaeth ac rwyf wedi cyfrannu at Advance HE, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a chyhoeddiadau'r llywodraeth.  Mae gen i sawl gwobr ac yn fwyaf diweddar fe enillais Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Enterprise Educators UK.

Cyflwyniad Personol

Dechreuais ym maes entrepreneuriaeth bum mlynedd ar hugain ar ôl cael fy ysbrydoli gan ddarlithydd a roddodd yr wybodaeth, y cyfle ar gred yr oedd ei hangen arnaf.  Ers hynny rwyf wedi symud trwy adeiladu gwefan gwerthu cerddoriaeth e-fasnach a buddsoddiadau eiddo ochr yn ochr â gyrfa yn y byd academaidd.  Mewn rôl arweinyddiaeth addysgol uwch, bûm yn gweithio gyda'r recriwtwyr graddedigion mwyaf ac yn cefnogi myfyrwyr i ennill buddsoddiadau o filiwn o bunnoedd.  Fy mhrofiad addysgu yw cyflwyno addysg entrepreneuriaeth i fyfyrwyr o anthropoleg a sŵoleg. 

Cyd-sefydlais gwmni yn 2023 lle rydym yn cefnogi swyddogion gweithredol a thwristiaid gyda llety arhosiad byr lefel uchel.  Yn y gaeaf fe welwch fi yn sglefrio iâ, yn yr haf fe welwch fi'n tynnu fy ngharafán i'r traeth.​

​I gysylltu â​ Neil:

E-bost: ndcoles@cardiffmet.ac.uk

Neil Coles

Fran Hunt: Ymgynghorydd/Mentor Busnes

Rwy'n darparu cymorth 1:i:1 i fusnesau newydd myfyrwyr a graddedigion. 

Rwy'n defnyddio fy arbenigedd i roi cyngor ar agweddau ar gofrestru busnes, y gyfraith, eiddo deallusol, marchnata a chynllunio ariannol. Fy meysydd arbenigol yw gwaith llawrydd a’r diwydiannau creadigol. Yn ogystal, rwy’n cynllunio ac yn cyflwyno gweithdai grŵp ar feysydd penodol o entrepreneuriaeth. 

Rwy’n gweithio’n agos gydag addysgwyr entrepreneuriaeth allanol fel Busnes Cymru a Syniadau Mawr Cymru. Rwy'n un o sylfaenwyr Be The Spark. Rwyf hefyd yn Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru. Fi yw'r arweinydd ar hygyrchedd ac anabledd ar gyfer y Ganolfan Entrepreneuriaeth. 

Rwyf wedi bod yn hunangyflogedig ar hyd fy oes gwaith, rwyf wedi bod yn fasnachwr unigol, yn llawrydd ac wedi sefydlu cwmni Cyf.

Rwy'n gweithio'n rhan-amser yn fy rôl yn CFE ac yn parhau â hunangyflogaeth ochr yn ochr.  Mae'n fy ngalluogi i gael y wybodaeth ddiweddaraf a rhannu enghreifftiau byd go iawn o entrepreneuriaeth.

Hyfforddais yn RADA mewn Gwneud Propiau ac rwyf wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol ers 15 mlynedd.  

Mae gen i anabledd, c  wnes i droi at hunangyflogaeth i ganiatáu hyblygrwydd i mi o ran fy nghyflyrau iechyd.  Rwy'n cefnogi llawer o fyfyrwyr ag anableddau yn fy rôl.​​

I gysylltu â​ Fran:

E-bost: fehunt@cardiffmet.ac.uk​​

Roger Williams: Ymgynghorydd/Mentor Busnes

Rwy'n darparu cymorth 1:1 i fusnesau newydd myfyrwyr a graddedigion. 

Rwyf wedi sefydlu a rheoli dwy fenter gymdeithasol lwyddiannus, gan oruchwylio'r gwaith o adeiladu, gosod a rheoli Canolfan St Pauls ar ran yr Eglwys yng Nghymru. Mae gennyf gefndir helaeth yn y celfyddydau fel Cyfarwyddwr/Asiant Castio a Chynhyrchydd ar gyfer Ffilm/Teledu a Theatr gyda gwybodaeth broffesiynol o fusnes o'r cychwyn cyntaf i gwmnïau rhyngwladol. Rwy'n cynllunio ac yn cyflwyno gweithdai grŵp ar feysydd penodol o entrepreneuriaeth ac rwy'n angerddol am arloesi a chefnogi myfyrwyr/graddedigion i gyflawni eu huchelgeisiau busnes.

Rwy'n Gynghorydd Datblygu Busnes ac yn weithiwr proffesiynol ym maes Cyfathrebu, yn berchen ar fy nghwmni fy hun sy'n cynghori BBaChau ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol profiadol ac yn Gymrawd y Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM). Mae gen i Radd Meistr mewn Arwain a Rheoli gyda Gradd Sylfaen mewn Cyfryngau Cymdeithasol Strategol. Rwyf wedi bod yn Rheolwr Prosiect Digidol ac yn Gynghorydd Busnes i Glwb Menter Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac yn Rheolwr Busnes i Thrive Enterprises (Cymorth i Ferched Port Talbot, lle sefydlais a rheolais ddwy fenter gymdeithasol lwyddiannus). ​

​I gysylltu â Roger

E-bost: rwilliams4@cardiffmet.ac.uk


Hannah Willis: Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth - CSSHS

Fel Hyrwyddwr Menter, rwy'n cynllunio, dylunio a chyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithdai a rhaglenni sy'n ymwneud â menter ac entrepreneuriaeth.

Rwy'n cynnal gweithgareddau allgyrsiol sy'n cael eu rhedeg gan y Ganolfan, yn hwyluso gweithdai ac yn cyfrannu at gyflwyno digwyddiadau menter lluosog. O fewn y cwricwlwm, rwy'n ymwneud â chyflwyno sesiynau addysg fenter o fewn modiwlau ac yn cysylltu ag academyddion ar gynnwys entrepreneuriaeth yn eu rhaglenni.

Rwy'n gweithio'n agos gydag adrannau gwasanaethau proffesiynol eraill, megis y tîm Gyrfaoedd ac arweinwyr cyflogadwyedd, i gyfrannu at weithgareddau ar y cyd ac i hyrwyddo mentergarwch o fewn yr ysgolion. Rwyf hefyd wedi cwblhau'r cwrs "Paratoi i Addysgu ym y sector AHO" ym Met Caerdydd. ​

I gysylltu â Hannah:

E-bost: hwillis@cardiffmet.ac.uk

Hannah Willis

Isabelle Ford: Hyrwyddwr Menter

Rwy’n angerddol am wneud entrepreneuriaeth yn ysbrydoledig, yn hygyrch ac yn gyraeddadwy i bawb. Rwy’n falch o weithio yng Nghymru lle mae’r rhwydwaith cymorth a’r ecosystem ar gyfer entrepreneuriaid wedi ffynnu ac yn darparu cyfoeth o gyfleoedd i’r rheini sydd â sbarc entrepreneuraidd. Mae fy rôl ym Met Caerdydd yn cynnwys datblygu meddylfryd entrepreneuraidd a sgiliau allweddol myfyrwyr a graddedigion, gan eirioli ac annog ymgysylltiad â’r Ganolfan Entrepreneuriaeth ar draws y brifysgol.

I gysylltu ag Isabelle:

E-bost: iford@cardiffmet.ac.uk

Isabelle Ford

Rachel Knox: Hyrwyddyr Menter Gymdeithasol

Fel hyrwyddwr Menter Gymdeithasol rwy'n gweithio ar draws pob ysgol ym Met Caerdydd. Fy rôl yw ymgysylltu a grymuso myfyrwyr gyda menter gymdeithasol a chynaliadwyedd. Rwy'n cynnal gweithdai, sesiynau, cyrsiau a digwyddiadau rhyngweithiol, ac rwy'n cefnogi myfyrwyr a staff sydd am ddechrau eu menter gymdeithasol eu hunain. Mae fy swydd yn cynnwys adeiladu rhwydwaith y tu mewn a'r tu allan i'r brifysgol, gyda myfyrwyr, graddedigion, busnesau cymdeithasol lleol, a phartneriaid eraill.

Fel hyrwyddwr menter rwy'n gweithio'n agos gydag YGDC a'r tîm Cyflogadwyedd i ddarparu'r profiadau ​gorau i'n myfyrwyr, ac yn eu helpu i greu effaith gymdeithasol gadarnhaol a pharhaol gyda'u gwaith.​​

​I gysylltu â Rachel

E-bost: rknox@cardiffmet.ac.uk


Morna Manson: Cynghorydd Busnes ac Arloesi

Fel Cynghorydd Busnes ac Arloesi, fy rôl yw gweithio'n agos gyda Myfyrwyr a Graddedigion, gan eu helpu i ddatblygu eu syniadau o'r cysyniad hyd at y cwsmer cyntaf a chynhyrchu refeniw. Rwyf hefyd yn ymwneud â myfyrwyr PhD, yn chwilio am gyfleoedd i fasnacheiddio'r prosiectau arbenigol hyn.

Rwy'n darparu cymorth 1-i-1 i'n myfyrwyr, a graddedigion, yn eu cynghori ar bob agwedd ar fusnes a gweithio'n llawrydd, a'u cyfeirio at gymorth ychwanegol a gweithdai yn ôl yr angen. O ran prosiectau PhD rwy'n helpu'r ymchwilydd i ddeall dichonoldeb masnachol posibl eu prosiect a llwybrau posibl i'r farchnad.

Mae gen i yrfa bortffolio sy'n cynnwys profiad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, a busnes rhanbarthol a rhyngwladol. Yn fwyaf diweddar, sefydlais cyfres o fusnesau fy hun rwyf yn eu rhedeg ochr yn ochr â fy rôl yn y Brifysgol.  Yr hyn sy'n gyffredin i'r holl brofiadau busnes yw cyfathrebu a pherthnasoedd. Does dim byd yn digwydd nes i chi siarad â rhywun.

Graddiais gydag MBA o Brifysgol De Cymru, ac mae fy niddordeb arbennig i yn gorwedd mewn cyfathrebu - ni allwch newid diwylliant na chymryd rhan mewn gweithredu entrepreneuraidd trwy e-byst a memos. Rydych chi'n ei newid trwy berthnasoedd, un sgwrs ar y tro.​

​I gysylltu â Morna

E-bost: mmanson@cardiffmet.ac.uk


Richard Godfrey: Rheolwr Perthnasoedd - Rhwydwaith Busnes Cyn-fyfyrwyr

Rwy'n gyfrifol am redeg rhaglen fentora'r Ganolfan Entrepreneuriaeth, Catalyst.  Mae'r rôl yn cynnwys recriwtio a rheoli banc o fentoriaid profiadol sy'n darparu cefnogaeth gychwynnol ychwanegol i fyfyrwyr a graddedigion Met Caerdydd.  Mae ein mentoriaid yn gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd yn bennaf, ond nid yn unig, tra bod ein mentoreion yn fyfyrwyr presennol neu'n raddedigion o fewn 3 blynedd i raddio. Paru mentoriaid/mentorai, rwy'n cadw mewn cysylltiad â'r ddau, gan sicrhau gwerth parhaus i bob parti.

Yn ogystal, rwy'n cefnogi'r tîm CFE i ddarparu ymgysylltiad entrepreneuraidd, datblygu sgiliau menter a chymorth cychwyn busnes.

Ar ôl graddio gyda BEng (Anrh) o Brifysgol Warwick ym 1998 a chyfnod yn teithio a dod o hyd i'r hyn yr oeddwn ei eisiau o fywyd, sefydlais fy musnes cyntaf yn 2003 fel partneriaeth. Daeth hyn i ben yn 2005, a sefydlais fusnes yn y sector lletygarwch a'i dyfu o 1 aelod i 28 CALl gyda throsiant o £2.8m.

Mae gennyf ddiddordeb mewn busnesau newydd, eiddo a phrofiad cwsmeriaid, ac rwy'n gyd-berchen ar fusnes ymgynghori a hyfforddi arbenigol.​