Cyllid

​​​​​​​​​​​​​​​​Ar y dudalen hon fe welwch ddolenni ac adnoddau i'ch helpu i ariannu eich syniad busnes. 

Cysylltwch â ni​ i gael help ymlaen llaw os oes angen i chi wneud cais am gyllid, neu os ydych am drio un o'r cystadlaethau neu fentrau isod. Gallwch hefyd anfon neges atom os oes angen cyngor neu gymorth arnoch ar gyfer eich cais neu'ch cynnig.​

Cronfa Fflach Canolfan Entrepreneuriaeth - £250

Eich cam cyntaf i ariannu eich busnes. Mae'r gronfa hon yn gyflym ac yn hawdd gwneud cais amdano ac mae'n wych cefnogi eich camau cyntaf tuag at yrfa entrepreneuraidd. Mae Cronfa Fflach ar agor am gyfnodau cyfyngedig yn ystod tymor yr hydref a'r gwanwyn. 

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am y Gronfa Fflach

Cronfa Sbarduno​ Canolfan Entrepreneuriaeth (Noddir ​gan Santander) - £500

Mae Cronfa Seed EntAct wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sydd â syniad datblygedig ar gyfer busnes neu fenter gymdeithasol. Byddwch yn barod i ddechrau neu dyfu eich busnes neu'ch menter gymdeithasol. Er efallai nad ydych yn cynhyrchu refeniw sylweddol eto, efallai eich bod wedi masnachu profion, wedi gwneud rhywfaint o werthiant cychwynnol neu byddwch wedi datblygu MVP a dechrau dilysu eich syniad. 

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am y Gronfa Sbarduno

Cronfa Cychwyn Busnes CF5 (Noddir gan Santander) – hyd at £3000

Dyluniwyd yr arian hwn ar gyfer graddedigion sydd eisoes yn masnachu ac sydd eisiau tyfu eu busnes neu fenter gymdeithasol. Er efallai na fyddwch yn cynhyrchu refeniw sylweddol eto, byddwch naill ai wedi gwneud rhywfaint o werthiant cychwynnol neu byddwch wedi datblygu MVP a dilysu eich syniad. 

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am y Gronfa Cychwyn Busnes

Grantiau Llywodraeth Cymru – hyd at £2000

Mae dau grant newydd gan Llywodraeth Cymru. Mae'r grant person ifanc yn dechrau arni ar gyfer rhai o dan 25 oed. Fyddwch chi ddim yn gymwys i dderbyn y grant hwn tra byddwch yn dal i astudio, ond mae'n werth cysylltu â Syniadau Mawr Cymru hyd at dri mis cyn graddio. Mae'r Grant Rhwystrau ar gyfer y rhai sydd dros 25 oed, ond sy'n wynebu rhwystrau penodol rhag dechrau busnes.

Rhaglen Yr Arloeswyr Ifanc

Yn cynnwys gwobrau blynyddol i bobl ifanc gyda syniadau busnes creadigol ac arloesol ac ymgyrch #IdeasMeanBusiness proffil uchel, mewn partneriaeth rhwng Innovate UK a Prince's Trust. Erbyn 2023 bydd rhaglen Yr Arloeswyr Ifanc yn dyfarnu hyd at 100 o bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol gyda grant o £5,000, hyfforddi busnes un-i-un a lwfans i dalu am gostau byw. 

Cliciwch i weld mwy.

Unltd - Ariannu a chefnogaeth i Fenter Gymdeithasol

Cefnogaeth arbenigol i entrepreneuriaid cymdeithasol ar unrhyw adeg, gan gyfuno arian parod a hyfforddi i helpu i feithrin syniadau a thyfu effaith. Gwobrau o £8000 i £16,000 ar draws dau becyn cychwyn gwahanol. 

Cyllid UnLtd.

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn darparu cyllid busnes hyblyg i gwmnïau wedi'u lleoli yng Nghymru o £1,000 hyd at £5 miliwn. Benthyciadau ac ecwiti. Sicredig ac ansicredig.​

The Pitch

Mae The Pitch yn cael ei farchnata fel cystadleuaeth pitchio fwyaf y DU. Mae'n ffordd wych o brofi eich syniad busnes a chael cefnogaeth a buddsoddiad i'ch busnes. Dros y blynyddoedd mae The Pitch wedi helpu miloedd o fusnesau bach i dyfu a chynnal rhaglen ysbrydoledig o weithgaredd ar-lein a thrwy ddigwyddiadau byw. A'r rhan orau? Mae'r cyfan yn hollol rhad ac am ddim!

Mwy i’w weld yn www.thepitch.co.uk

DBACE - Rhaglen fenter Deutche Bank for social good

Cyllid ar ffurf cystadleuaeth ar gyfer busnesau creadigol sydd â nodau cymdeithasol.
Pot gwobrwyo o £50,000 a gaiff ei rannu rhwng 5 enillydd, a mentora a chefnogaeth arall. 

Mwy o wybodaeth yma.

FSB - Cefnogi, Digwyddiadau a Gwobrau

Yr FSB (Ffederasiwn y Busnesau Bach yw'r corff mwyaf yn y DU sy'n cynrychioli busnesau bach. Mae aelodaeth o'r FBS yn dod â llawer o wobrau. Mae'r FSB hefyd yn weithgar iawn yn Ne Cymru ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio, mae'r rhain am ddim neu gyda ffi isel. Mae ganddyn nhw wobrau busnes hefyd, mwy o fanylion yma.