Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth>Support For Academics

Cymorth i Academyddion

Image by Amelia

Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn cynnig rhaglen gymorth gynyddol i'r holl staff addysgu. Mae hyn yn cynnwys cyfres o gyrsiau a ddatblygwyd ar y cyd â Chyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd Met Caerdydd, cymorth un-i-un i gynllunio a datblygu modiwlau a darpariaeth elfennau o fewn modiwlau a chyrsiau ledled y brifysgol.

​I gael rhagor o fanylion am yr hyn sydd ar gael ac i drefnu cymorth un-i-un ar eich cwrs, cysylltwch â entrepreneurship@cardiffmet.ac.uk

Rhwydwaith

Grŵp cymorth creadigol yw ein Rhwydwaith Addysg Fenter sy'n cynnwys staff addysgu sydd â diddordeb mewn datblygu eu hymyriadau entrepreneuriaeth a'u hymchwil eu hunain o fewn ac ar draws disgyblaethau. Gallwch ymuno yn y trafodaethau ar Yammer neu gael mynediad i'n Safle Moodle sy'n llawn adnoddau perthnasol.​

Ymchwil

Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn rhan o’r tîm Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RIS). Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu cymorth ymarferol i fyfyrwyr sy'n creu busnesau a datblygu arferion addysgu sy'n archwilio addysg entrepreneuriaeth o bob math. Credwn fod addysg entrepreneuriaeth yn cael ei llywio gan 'werthoedd'. Rydym yn annog staff i ddatblygu prosiectau ymchwil yn seiliedig ar eu harbenigedd, eu hathroniaeth addysgu ac anghenion eu myfyrwyr. Rydym yn annog staff i ddatblygu gweithgarwch ymchwil yn seiliedig ar addysgeg addysg menter ac entrepreneuriaeth a byddem wrth ein bodd i glywed eich syniadau.