Busnes>Canolfan Entrepreneuriaeth>Cymorth i Fyfyrwyr

Cymorth i Fyfyrwyr - EntAct

​​​ Myfyrwyr y Ganolfan Entrepreneuriaeth yn cael llun gyda'u gwobrau

Fel myfyriwr Met Caerdydd, rydym yn gwybod eich bod yn datblygu eich EDGE. Ein swydd ni yw eich helpu i ddatblygu’r E diwethaf;​ gan fod yn fwy entrepreneuraidd. Nid yw hyn bob amser yn ymwneud â dechrau busnes, ond mae’n ymwneud â chreu gwerth. Efallai y byddwch am wneud eich hun yn weithiwr mwy gwerthfawr, dod â gwerth i gymdeithas neu ychwanegu gwerth i’ch cyfrif banc!

Gallwch ddod o hyd i ddolenni i’n holl weithdai, sgyrsiau a sesiynau rhwydweithio isod.​ Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i wneud yn siŵr eich bod yn clywed am gyllid a gweithgareddau a​​rbennig. ​Os oes gennych chi syniad am fusnes, neu eisiau cael sgwrs â chynghorydd am waith llawrydd gallwch gael mynediad at ein cefnogaeth drwy’r ffurflen syml hon.

EntAct - Ein gwasanaeth i fyfyrwyr

​​Diben ein gweithgareddau EntAct yw datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad i’ch helpu i gyflawni eich nodau entrepreneuraidd ac mae ein gwasanaeth arobryn yn gwneud hyn i gyd. Mae Met Caerdydd yn cefnogi mwy o raddedigion i fusnes nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru a rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau gweithio gyda chi.​