Yr Athro Rachael Langford

​​

Llywydd ac Is-Ganghellor yr Athro Rachael Langford

BA MA (Oxon), PhD

Bywgraffiad

Mae’r Athro Rachael Langford wedi bod yn Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd ers mis Chwefror 2024, ar ôl bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ers 2021.

Mae Rachael yn ieithydd modern yn ôl cefndir academaidd ac mae ganddi BA ac MA mewn Ffrangeg (Prifysgol Rhydychen) a PhD mewn Astudiaethau Diwylliannol Ffrangeg o Brifysgol Caergrawnt. Mae hi wedi ymchwilio ac addysgu’n eang ar astudiaethau diwylliannol Ffrengig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddiwylliannau ôl-drefedigaethol a gwladychol sy’n siarad Ffrangeg, yn enwedig ffilm a ffotograffiaeth.

Fel Dirprwy Is-Ganghellor, Rachael oedd yr arweinydd gweithredol ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol ac ar gyfer marchnata, cyfathrebu a recriwtio myfyrwyr, yn ogystal ag ar gyfer cynllunio, adnoddau a goruchwylio strategol cenhadaeth academaidd y 5 Ysgol academaidd. Cyn cael ei phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2021, roedd Rachael yn Ddeon Gweithredol (Recriwtio Rhyngwladol) Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Oxford Brookes. Cyn hynny, roedd Rachael yn Bennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd am nifer o flynyddoedd, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Ymchwil a Chyfarwyddwr Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig Ieithoedd Modern yn flaenorol, gan gynnwys arwain ar agweddau allweddol ar gyflwyno REF2014. Yn siaradwr Cymraeg rhugl a Ffrangeg ar lefel brodorol, mae Rachael yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac mae’n parhau i ymchwilio a chyhoeddi yn ei meysydd arbenigedd, cyn belled ag y mae ei chyfrifoldebau arwain yn caniatáu.

Cysylltu

Os hoffech gysylltu â’r Is-Ganghellor, e-bostiwch vc-office@cardiffmet.ac.uk.

Cyfeiriad: Swyddfa’r Is-Ganghellor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Tŷ Morol, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YB