Mae Met Heini yn cynnig ystod o wahanol raglenni ar gyfer pob gallu. Mae ein haelodaeth wych yn rhoi mynediad i chi i'r cyfleusterau a'r rhaglenni rhagorol sydd ar gael yma ym Met Caerdydd.
Wedi'i lleoli ar gampws Cyncoed a Llandaf, ein nod yw cael effaith ar holl fyfyrwyr a staff Met Caerdydd yn ogystal â'r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu.
Mae amseroedd agor ein cyfleusterau iechyd a ffitrwydd ar gael ar Ap Chwaraeon Met Caerdydd. Sylwch y gall amseroedd agor cyfleusterau amrywio oherwydd digwyddiadau arbennig.
Dosbarthiadau Ffitrwydd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau iechyd a ffitrwydd. Dysgwch fwy am ein rhaglen dosbarth iechyd a ffitrwydd.
Ymunwch Ar-lein
Gall myfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd brynu eu haelodaeth ar-lein.
Cyfraddau Talu a Chwarae
Gellir defnyddio ein cyfleusterau a’n gweithgareddau yn achlysurol. Mae’r prisiau i’w gweld ar Ap Chwaraeon Met Caerdydd.