Astudio>Bywyd Myfyrwyr>Gweithredu ar Gostau Byw

Gweithredu ar Gostau Byw

​​Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd yr holl gamau a gymerwyd ym Met Caerdydd i gefnogi myfyrwyr y mae’r costau byw cynyddol yn effeithio arnynt. Rydym yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr ar fesurau cymorth ychwanegol.

Darganfod mwy am sut y gallwn eich cefnogi chi:


Dyddiau Cymunedol Misol

Rydym yn cynnal Diwrnodau Cymunedol misol ar Gampws Llandaf, lle mae busnesau lleol a gwasanaethau Prifysgol yn dod at ei gilydd. Mae nifer o wasanaethau AM DDIM i fyfyrwyr:

  • Torri gwallt am ddim
  • Cyfnewid dillad am ddim
  • Siop lyfrau am ddim
  • Cyngor am ddim gan Rheoli Gwastraff Cyngor Caerdydd ar gasglu gwastraff yn ardal Caerdydd, casglu bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd


​Bwyd

  • Rydym wedi ymrwymo i gynnal y prisiau arlwyo fel yr oedden nhw ar ddechrau’r flwyddyn er gwaethaf y pwysau chwyddiant parhaus.
  • Rydym wedi ymrwymo i ddarparu prydau poeth i ginio a brecwast am bris derbyniol.
  • Rydym yn cynyddu nifer y peiriannau gwerthu ar y campws i ganiatáu diodydd poeth a bwyd i fyfyrwyr sy’n astudio y tu allan i oriau agor arferol.
  • Opsiwn i brynu bwyd ar ddiwedd ei oes ar ddiwedd y diwrnod arlwyo i leihau gwastraff bwyd a darparu bwyd/cynhwysion rhatach.


Teithio

  • Mae’r Brifysgol yn cynnal digwyddiadau rheolaidd lle gellir trwsio nwyddau cartref a lle gellir gwasanaethu beiciau (a’u hatgyweirio) am ddim.
  • Met Wibiwr: Pàs bws y Brifysgol sydd hefyd yn rhoi mynediad diderfyn i chi i holl wasanaethau Bws Caerdydd yn ogystal â llwybrau pwrpasol y Met Wibiwr sy’n cysylltu ein campysau.
  • Beiciau Ovo: Mae’r Brifysgol wedi prynu 5,000 o basiau Beic Ovo i fyfyrwyr a staff eu defnyddio. Mae pob pàs yn rhoi’r 30 munud cyntaf o ddefnydd yn rhad ac am ddim – a does dim cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch ei ddefnyddio bob dydd! Mae gan bob un o’n campysau stondinau Ovo.
  • Mae Undeb y Myfyrwyr wedi partneru â chwmni tacsis yng Nghaerdydd, Dragon Taxis, i ddarparu teithio diogel i fyfyrwyr hyd yn oed os na allant dalu.


Gwres

Mae ein Canolfannau Dysgu ar gampysau Cyncoed a Llandaf ar agor 24/7, gan sicrhau mannau wedi’u gwresogi am 24 awr y dydd at ddefnydd astudio.


Ceginau i Gymudwyr – Cyfleusterau Microdon a Dwr Poeth am Ddim

Mae cyfleuster cegin newydd i gymudwyr wedi’i greu yn Adeilad Barbara Wilding, ar flaen campws Llandaf. Yng Nghyncoed, mae cegin sydd ar gael i fyfyrwyr.


Cyfleusterau Cawod am Ddim

Mae’r cawodydd yn yr ystafelloedd newid Chwaraeon ar draws ein campysau’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr eu defnyddio.


Cynhyrchion Mislif am Ddim

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi partneru â Time of the Month, Hey Girls, a Grace and Green i gyflenwi cynhyrchion mislif am ddim i fyfyrwyr sy’n cael mislif ym Met Caerdydd. Mae’r nwyddau AM DDIM i’w casglu yn un o swyddfeydd UM yn Llandaf neu Gyncoed, ac yn Siop UM ar gampws Cyncoed. Cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch, pan fyddwch ei angen, ni fyddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau. Mae’r holl gynhyrchion yn gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn rhydd o blastig!


Cymorth i Gadw Costau Astudio’n Isel

  • Mae holl ddirwyon y Llyfrgell wedi’u dileu.
  • Nid oes gofyn i fyfyrwyr gyflwyno gwaith i’w asesu ar ffurf copi caled (oni bai ei fod yn ofyniad amlwg mewn meysydd fel Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd), gan leihau’r angen am argraffydd.
  • Mae’r Llyfrgell yn darparu mynediad am ddim i tua 150,000 o eitemau print, 220,000 o lyfrau digidol a 115,000 o gyfnodolion digidol. Rydym yn gweithio’n agos gyda’ch darlithwyr, a byddwn yn darparu mynediad i’r adnoddau sydd eu hangen arnoch ac sydd ar restrau darllen eich cwrs.
  • Mae adran TG Met Caerdydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fenthyg gliniadur. Mae gennym fwy na 250 ar gael, a gallwch fenthyg un am ddim.
  • Bydd y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth yn sicrhau bod unrhyw gyfrifiaduron bwrdd gwaith neu liniaduron wedi’u hailgylchu ar gael i fyfyrwyr am brisiau isel pan fyddant ar gael.